Cwpan Her Ewrop: Scarlets 19-31 Caeredin
- Cyhoeddwyd
![Duhan van der Merwe](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/56FB/production/_132376222_gettyimages-1945700716.jpg)
Roedd Duhan van der Merwe ymysg y chwaraewyr i groesi'r llinell gais
Roedd hi'n noson ddiflas i'r Scarlets yng Nghwpan Her Ewrop wrth iddyn nhw golli gartref yn erbyn Caeredin.
Er gwaethaf dau gerdyn melyn a cherdyn coch i Grant Gilchrist, sgoriodd yr ymwelwyr bum cais wrth sicrhau eu lle yn rownd nesaf y gystadleuaeth.
Ar noson anodd i'r Scarlets sgowrwyr ceisiau Caeredin oedd Vellacott, Nel, Van de Merwe, Watson a Schoeman.
Roedd peth gobaith, serch hynny, gyda cheisiau gan Joe Roberts a Ryan Conbeer cyn i'r dyfarnwr, Sara Cox, ddyfarnu cais gosb wedi i'r bêl gael ei fwrw ymlaen yn fwriadol.
Ond golyga'r canlyniad fod y Scarlets yn gorffen ar waelod y grŵp heb un pwynt.