Y Gweilch yn rownd 16 olaf Cwpan Her Ewrop
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweilch wedi sicrhau gêm gartref yn rownd 16 olaf Cwpan Her Ewrop ar ôl ennill 28-38 yn erbyn y Lions yn Ne Affrica ddydd Sul.
Daeth cais cyntaf y gêm ar ôl 16 munud wrth i'r Gweilch gipio'r bêl ynghanol cae gan greu lle i Owen Watkin groesi'r llinell.
Ond daeth ymateb yn syth gan y Lions wrth i'r capten Marius Louw fanteisio ar gic dros y top gan Sanele Nohamba.
George North oedd y nesaf i sgorio cais wedi i'r canolwr dorri ei ffordd trwy'r amddiffyn gan roi'r Gweilch ar y blaen o 8-14.
Yn 10 munud olaf yr hanner fe sgoriodd y tîm cartref ddau gais trwy Pretorious a Louw.
Daeth cais nesa'r gêm ar ôl ychydig dros chwarter awr o'r ail hanner gyda Morne van den Berg yn croesi'r llinell.
Roedd hi'n edrych fel bod y Lions yn rhuo eu ffordd i'r rownd nesaf ond roedd Keiran Williams yn dal yn llawn egni.
Fe lwyddodd ei rediad i ddarganfod yr asgellwr Keelan Giles i ddod a'r Gweilch yn ôl o fewn pedwar pwynt gyda saith munud i fynd.
Tair munud yn ddiweddarach, diolch i rediad da gan y prop Cameron Jones, cafodd y bêl ei phasio i Watkin a'i rhoddodd hi'n ôl i Jones i sgorio cais.
Gyda thair munud ar ôl roedd y cefnogwyr cartref yn syfrdan wrth i Morgan Morse ryng-gipio'r bêl a rhedeg 60 metr i'r llinell.
Ond ni fydd y Dreigiau yn mynd ymhellach yn y gystadleuaeth ar ôl colli o 9-29 yn erbyn y Sharks yng Nghasnewydd nos Sul.
Croesodd Jaden Hendrikse ac Ox Nche am geisiau i'r tîm o Dde Affrica yn yr hanner cyntaf i'w gwneud hi'n 6-12 ar yr egwyl.
Ond ymestyn wnaeth y fantais yn yr ail hanner wrth i Gerbrandt Grobler, Le Roux Roets a Werner Kok oll groesi er mwyn sicrhau na fyddai'r Dreigiau yn rownd yr 16 olaf.