Thyroid: Gormod yn 'anwybyddu' symptomau salwch 'anweledig'
- Cyhoeddwyd
Mae gormod o bobl yn "anwybyddu" symptomau yn ymwneud â'r thyroid, yn ôl un arbenigwr yn y maes.
Mae cyflyrau'n ymwneud â'r thyroid, sef chwarren (gland) yn y gwddw, yn aml yn cael eu hystyried fel rhai "anweledig", yn ôl Sefydliad Prydeinig y Thyroid.
Er bod y cyflyrau yn effeithio hyd at 5% o boblogaeth y DU, mae'r elusen yn galw am godi ymwybyddiaeth, ynghyd â chynyddu'r gwaith ymchwil o fewn y maes.
Mae symptomau o broblemau gyda'r thyroid yn cynnwys blinder, diffyg canolbwyntio, magu pwysau heb reswm a theimlo'n oer.
I un fenyw ifanc, mae cael mis penodol i godi ymwybyddiaeth ynghylch problemau thyroid yn gwneud iddi deimlo fel ei bod yn cael ei chlywed.
Fe gafodd Elin Wyn James o Gaerfyrddin ddiagnosis hypothyroid - thyroid sydd ddim yn creu digon o hormon - pan oedd ond yn 13 oed.
Gan fod cyflyrau thyroid yn aml yn rhedeg o fewn teuluoedd, dywedodd Elin iddi fod yn "lwcus" bod ei mam wedi "sylwi ar lwmp ar fy thyroid, ac a'th hi â fi i'r doctor yn syth ac wedyn i Ysbyty Glangwili".
"Yn edrych 'nôl, fi'n meddwl oedd e'n achosi lot mwy o broblemau nag 'o i'n sylwi ar y pryd, blinder yn un peth mawr, ond hefyd 'nath e effeithio ar y ffordd 'ro ni'n tyfu ac yn datblygu."
Gyda hithau yn yr ysgol uwchradd yn derbyn y diagnosis, dywedodd fod y cyflwr wedi cael cryn effaith arni.
"Roedd e'n effeithio gwaith, gwaith cartre'. Cyfnodau adolygu ro' ni'n gweld yn anodd achos ro'n i'n blino'n rhwydd, fi dal yn gorfod mynd i'r gwely yn gynnar."
Wrth iddi geisio ymdopi yn y brifysgol, dywedodd bod y cyflwr wedi gwneud iddi deimlo'n "isel ac yn bryderus" ar adegau.
Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn "rhwystredig pan dyw pobl ddim yn ymwybodol ohono fe".
"Fi'n credu bod e'n bwysig i fod yn agored, i siarad amdano fe gyda'ch cyflogwyr, ffrindiau, teulu ac athrawon."
'Blynyddoedd er mwyn cael rheolaeth' o'r cyflwr
Yn wahanol i brofiad Elin James, dywedodd Alwen Pennant Watkin ei bod wedi cymryd "blynyddoedd er mwyn cael rheolaeth" o'i phroblem thyroid.
Cafodd ddiagnosis o glefyd Hashimoto - sef cyflwr sy'n effeithio ar y thyroid - 15 mlynedd yn ôl, ond roedd ei siwrne i gael diagnosis yn un hir.
Dywedodd: "Mi gymrodd rai blynyddoedd 'swn i'n d'eud er mwyn cael rheolaeth arno fo... weithiau oedd gen i thyroid yn underactive a dro arall yn overactive ac felly i gael y feddyginiaeth berthnasol ar ei gyfer o fe gymrodd o gryn amser."
Dywedodd iddi deimlo'r symptomau am flynyddoedd cyn y diagnosis, a hynny'n cynnwys teimlo'n "ddi-wmff, blinder ofnadwy, dro arall methu cysgu, curiad y galon yn cyflymu".
A hithau'n fis codi ymwybyddiaeth am y cyflyrau yma, roedd o'r farn bod "angen i bobl wybod pa effaith [mae'r cyflwr] yn ei gael ar bobl".
Mae gwaith ymchwil helaeth o fewn y maes yn cael ei gwblhau ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn y brifddinas.
Dywedodd Dr Aled Rees, sy'n ymgynghorydd ac yn athro endocrinoleg, fod pobl yn "anwybyddu lot o'r symptomau" ac nad yw pobl yn "mynd ddigon clou i weld y meddyg teulu".
Fe esboniodd "os nad oes digon o'r hormon thyroid, mae pobl yn gallu cael problem gyda'u blinder, cynnydd mewn pwysau heb reswm, problem teimlo oerfel neu fod y gwallt a'r croen yn sych".
Ar y llaw arall esboniodd os oes gan un ormod o'r hormon yna mae pobl yn "colli pwysau, yn chwysu, yn cael palpatations".
"Mae'r symptomau yn rhai cyffredin... bydde ni'n argymell pobl sy'n dioddef o'r symptomau i weld y meddyg teulu."
Galw am fwy o ymchwil
Dywedodd bod angen mwy o waith ymchwil o fewn y maes: "Dwi'n credu bod gwaith ymchwil yn bwysig.
"Er bod tabledi effeithiol iawn gyda ni am y cyflyrau, mae angen ymchwil i ni ddatblygu triniaethau newydd i gleifion gyda phroblemau yn y thyroid a hefyd i ddeall sut mae'r thyroid a'r hormonau yn effeithio ar organau eraill, er enghraifft yr ymennydd."
Mewn datganiad, dywedodd Sefydliad Prydeinig y Thyroid fod anhwylderau thyroid yn aml yn "anweledig er eu bod yn effeithio hyd at un mewn 20 o bobl yn y Deyrnas Unedig".
Fe ychwanegon nhw fod gwaith ymchwil i'r maes yn "allweddol" er mwyn "codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2018