Y chwilio am fenyw yn y môr ym Mhorthcawl yn dod i ben

  • Cyhoeddwyd
Hofrennydd

Mae Gwylwyr y Glannau wedi dod â'r gwaith chwilio am ddynes yn y môr ym Mhorthcawl i ben.

Fe dderbyniodd yr RNLI adroddiadau bod person yn y dŵr tua 17:55 ddydd Mawrth.

Cafodd y chwilio ei atal am gyfnod fore Mercher, cyn iddyn nhw ailgychwyn yn dilyn cais gan Heddlu De Cymru.

Mae ymchwiliad yr heddlu i'r digwyddiad yn parhau.

Disgrifiad,

Ein gohebydd Aled Huw ym Mhorthcawl yn gynharach ddydd Mercher

Cafodd timau achub eu hanfon o Borthcawl, Port Talbot, Llanilltud Fawr a Llansteffan.

Roedd hofrennydd Gwylwyr y Glannau a badau achub pob tywydd yr RNLI o'r Mwmbwls a Doc Y Barri hefyd yn rhan o'r ymgyrch.

Dywedodd yr RNLI bod amodau nos Fawrth wedi ei gwneud yn "heriol tu hwnt" i'r criwiau oedd "allan yn chwilio yn yr oriau mân".

Nos Fawrth dywedodd llefarydd ar ran yr Asiantaeth Forol a Gwylwyr y Glannau (MCA) bod hi'n fwriad i adolygu'r achos wrth iddi wawrio a phenderfynu a oes angen unrhyw chwilio pellach.

Mewn datganiad dywedodd Heddlu De Cymru eu bod "wedi ymateb i adroddiadau o fenyw yn y dŵr ar draeth" ac mai Gwylwyr y Glannau oedd yn arwain yr ymgyrch i chwilio amdani.

Pynciau cysylltiedig