Pwy sy'n cofio storm fawr Ionawr 1974?
- Cyhoeddwyd
Mewn rhai blynyddoedd, pan fydd pobl yn sôn am fis Ionawr 2024, un peth fydd yn dod i'r cof yn syth... mis llawn stormydd a gwyntoedd cryfion.
Roedd Ionawr 1974 yn debyg iawn i'r mis hwn, mis llawn stormydd cryf wnaeth ddifrodi popeth yn ei llwybr.
Roedd rhagolygon tywydd nôl yn y 1970au yn llai dibynadwy na rhai heddiw. Dyna pam fod storm 1974 wedi aros yng nghof sawl un, gan ei bod wedi ymddangos yn annisgwyl.
Roedd Ynys Môn yn enwedig wedi'i heffeithio'n ddrwg. Heb unrhyw rybudd, roedd trigolion Malltraeth yn disgrifio'r gwynt mawr wnaeth rwygo drwy'r gymuned a phara dim ond ychydig o funudau.
'Anifeiliaid yn hedfan'
Daeth i'r amlwg wedyn mai tornado oedd yn gyfrifol am yr holl ddifrod.
Roedd yn sefyllfa ddifrifol, roedd rhai pobl yn disgrifio sut oedd pobl yn cael eu chwythu a'u sugno allan o'u tai, ac eraill yn sôn am weld anifeiliaid yn hedfan drwy'r awyr.
Roedd hi'n wyrth na fuodd neb farw neu eu hanafu'n ddifrifol.
Y bore canlynol, fe aeth camerâu rhaglen Heddiw draw i Falltraeth i weld y difrod ac i glywed gan y sawl oedd yng nghanol y storm enwog. Gwyliwch y fideo uchod.