Mari Grug: 'Dwi'n lwcus i fod 'ma'

  • Cyhoeddwyd
Mari Grug yn derbyn triniaethFfynhonnell y llun, Mari Grug

"Oedd cyfnod rili tywyll ges i llynedd ym mis Tachwedd - wen i 'di gorffen chemo a'n aros am sgans. Trwy chemo wen i'n teimlo'n saff, dwi'n cofio lot yn dweud wrtha'i bydd chemo fel ffrind i ti - bydd e'n neud ti'n sâl ond mae rhaid ti weld e fel rhywbeth positif. Mae'n rhaid ti fynd trwyddo fe i ddod yn well."

Dyma'r agwedd bositif sy' wedi helpu'r gyflwynwraig Mari Grug i wynebu diagnosis a thriniaeth ar gyfer canser y fron ers mis Mai y llynedd.

Yn wyneb cyfarwydd ar ein sgrin deledu, mae stori'r fam 39 oed o Fynachlogddu wedi cydio yng nghalonnau nifer wrth iddi rannu ei diagnosis cychwynnol ac wedyn y ffaith fod y canser wedi lledu i'r nodau lymff a'r afu.

Mewn sgwrs arbennig gyda Cymru Fyw, mae Mari'n rhannu ei gobeithion ar gyfer y dyfodol a'r camau nesaf yn ei thriniaeth.

Gwrandewch ar Mari'n siarad am ei phrofiad ar BBC Sounds

Meddai: "Mae canser y fron metastatic 'da fi so mae'n ganser sy' wedi mynd o'r lle cychwynnol. Mae hwnna wastad yn waeth na un tiwmor mewn un man - mae un fi 'di dechrau trafeili ac mae egni 'da fe i fynd so mae sefyllfa fi bach yn wahanol.

"Ti ddim yn sylweddoli nes bod ti'n mynd trwyddo fe. Mae gymaint o wahanol fathau o ganser y fron - dwi'n mynd i gael radiotherapi nesa' ar ardal y fron i 'neud yn siŵr fod dim byd yn dod nôl.

"Dwi'n teimlo'n positif achos dwi mor falch bod nhw'n taflu popeth ata'i. Ar y dechre 'nathon nhw sôn os fydde canser fi wedi mynd o'r fron a'r nodau lymff i rywle arall, mai palliative care bydden i'n cael.

"Pan mae rhywun yn dweud rhywbeth fel 'na wrtho ti ti'n meddwl, 'beth am obeithio nawr bod e ddim wedi mynd i rhywle arall?'

"Pan glywais i bod e wedi mynd i'r afu o'n i'n meddwl, wel 'na ni, 'na ddiwedd hi.

"Ond mae'r afu yn organ sy'n tyfu nôl ac maen nhw'n gobeithio gallu torri darnau ohono bant.

"Pan ti wedi mynd i fan tywyll o ran y gwaethaf, mae cael y newyddion hyn yn hytrach na 'o sori Mari, ni ddim yn mynd i neud dim byd i ti, 'newn ni neud ti mwy cyfforddus a gadael ti' - dyw e ddim y sefyllfa 'na o gwbl."

Ffynhonnell y llun, Mari Grug

Positifrwydd

Wedi chwe rownd o cemotherapi yng Nghorffennaf, Awst, Medi a Hydref llynedd mae'r canser yn yr afu wedi lleihau yn sylweddol, yn ôl Mari: "Mae'r afu wedi ymateb yn dda iawn i chemo.

"Ond oedd y fron ddim yn ymateb rhyw lawer. Erbyn hyn dwi wedi cael y fron bant ac wedi cael lymph nodes fi mas.

"Beth sy'n helpu meddylfryd fi yw pan ti wedi cael y newyddion gwaetha' posib. Y peth lleia' alla'i neud nawr yw teimlo'n lwcus a'n ddiolchgar o'r cyfle i gael ymladd e.

"Problem canser yw ti ddim yn siŵr le arall - ydy e'n microscopic yn rhywle arall dyw nhw ddim yn gwybod am?"

Diffyg rheolaeth

Nid y driniaeth ei hun yw'r her pennaf i Mari ond yr aros rhwng apwyntiadau ac am ganlyniadau: "Wen i'n gallu delio 'da chemotherapy- oedd dau neu dri diwrnod wen i ar y soffa. Ond ar y cyfan wen i'n iawn 'da fe - wen i'n gallu parhau i weithio, i fod yn fam, yn wraig, yn normal.

"Unwaith bennodd hwnna wen i'n teimlo 'dwi ar goll nawr, maen nhw'n gadael fi mas'... fel bod fi'n cael fy rhyddhau a bod dim byd o gwmpas fi.

"Ges i gyfres o dri sgan un wythnos ac oedd veins fi yn collapsio achos bod chemo 'di effeithio arnyn nhw ac wen i'n gwybod fod rhaid fi gael y sgans clir 'ma i gael gobaith o lawdriniaeth. Oedd y pwysedd 'na yn ofnadwy.

"Yr wythnos yna nes i lefain mwy na dwi erioed wedi yn ystod y driniaeth - hwnna oedd y low point."

Ysbrydoliaeth

Gyda Mari'n rhannu diweddariadau o'i thriniaeth ar y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â pharhau i gyflwyno ar raglen Heno ac ar Radio Cymru, mae'r nifer o fenywod o bob oed sy'n cysylltu gyda hi wedi bod yn syndod ac yn ysbrydoliaeth, meddai: "Ar y dechre ges i don o bobl yn yr un sefyllfa yn cysylltu.

"Ges i lwyth o negeseuon cefnogol i ddechrau i ddweud, 'dyma'n sefyllfa i', 'mae'r canser wedi lledu i'r esgyrn ond mae gobaith...'

"Oedd hwnna'n lyfli ond nawr dwi'n clywed gan bobl sy' newydd gael diagnosis ac yn aros am ganlyniadau a'n chwilio am gyngor.

"Falle bod fi'n rhoi bach o obaith i bobl - y ffaith bod fi'n fam i dri o blant bach, fi'n gallu mynd i'r gwaith, fi'n gallu mynd i'r Eisteddfod a joio, mae'n dangos bod ddim rhaid i fywyd ddod i stop yn gyfan gwbwl.

"'Nath rhywun ddweud wrtha'i, 'ges i diagnosis 20 mlynedd yn ôl a bydden i wedi joio cael rhywun fel ti yn rhannu stori'. Mae hwnna'n rili neis i glywed.

"Maen nhw hefyd yn rhoi hwb i fi. Mae gyda fi rwydwaith arbennig o bobl yn fy nghefnogi - pan o'n i'n cael cemotherapi o'n i'n cyfeirio atyn nhw fel y 'Chemo tribe'.

"Mae gen i ffrindiau a chydweithwyr a theulu arbennig ond nawr mae 'da fi rwydwaith bach ychwanegol o bobl."

Ffynhonnell y llun, Mari Grug
Disgrifiad o’r llun,

Mari gyda'i chydweithwyr ar raglen Heno ar S4C

Cysur

Yn gysur ac yn gefnogaeth iddi hefyd mae'r teulu, ac yn arbennig ei gŵr Gareth a'r plant: "Y ffaith bod fi'n gorfod bod yma, yn bresennol, bod yn fam ond hefyd jest cario mlaen 'da bywyd arferol.

Ffynhonnell y llun, Mari Grug
Disgrifiad o’r llun,

Mari a Gareth gyda'r plant Steffan, Tomos a Hanna

"Ti ishe neud y mwya' o bob eiliad - pan ti'n cael diagnosis gwael ti'n mynd i neud y mwya' o bob cyngerdd, bob twrnament pêl-droed.

"Maen nhw yn rhoi mwy o bwrpas i fi.

"Weithie dwi'n meddwl mae'n waeth i rhieni fi i weld fi'n mynd trwy hwn."

Elfen genetig

Cafodd mam Mari ganser y fron yn 46 oed ac mae profion genetig wedi dangos fod ganddi un genyn sy'n tueddu at ganser y fron a'r ofari. Erbyn hyn, mae Mari'n credu mai ar ochr ei thad mae'r genyn yna wedi ei basio gan bod ei chyfnither (ar ochr ei thad o'r teulu) hefyd yn cael triniaeth am ganser y fron ar hyn o bryd.

O ganlyniad i'r elfen genetig mae doctoriaid yn ystyried tynnu'r ail fron, rhywbeth fyddai'r gyflwynwraig yn ei groesawu ar ôl tynnu'r fron gyntaf y llynedd: "Oedd y ffaith bod e wedi mynd (yn rhyddhad) achos wen i'n gallu teimlo'r lwmpyn bob dydd - y ffaith nawr bod fi ffaelu teimlo fe a'n gobeithio bod e ddim yn unrhyw le. Mae wedi mynd yn feddyliol ac yn ffisegol."

Yng Nghymru mae tua 2800 o bobl yn cael diagnosis o ganser y fron bob blwyddyn. Mae Mari'n credu'n gryf y dylai'r oed y mae'r Gwasanaeth Iechyd yn cynnig mamogram ostwng o 50.

Newid

Dyw'r diagnosis a'r driniaeth heriol ddim wedi ei newid fel person, yn ôl Mari: "Dwi wastad wedi bod yn berson gwydr hanner llawn.

"O ran bywyd a fy ngwaith i, ti'n cwrdd â gymaint o bobl, pob un â'i heriau. Ti'n sylweddoli, dwi'n lwcus i fod 'ma ac yn freintiedig i gael dihuno yn y bore.

"Dwi ddim yn meddwl bod cael canser wedi newid fi, jest wedi cryfhau meddylfryd fi mwy na dim.

"Cydio yn dynnach a gwerthfawrogi hyd yn oed yn fwy be' sy' 'da fi."

Felly beth sy' nesaf o ran triniaeth?

"Mae cyfres o radiotherapi o'm mlaen i. Y broblem gyda canser y fron metastatic yw mae'n gallu mynd i'r ymennydd ac i'r esgyrn, 'na'r ddau le mwyaf tebygol.

"Ges i sgan ar yr esgyrn cyn Nadolig ac oedd hwnna'n glir. 'Neud yn siŵr bod e ddim yn mynd unman arall, dyna yw'r nod. Dwi'n gobeithio'n fawr cael llawdriniaeth ar yr afu yn y misoedd nesa, dyna 'dwi'n 'neud ar hyn o bryd yw poeni llawfeddygon Caerdydd.

Ffynhonnell y llun, Mari Grug

"Dwi angen cael y canser yma mas o'r afu mor gloi â phosib.

"Cyn cael chemo wen i'n barod i wynebu fe a dwi'n teimlo fel 'na nawr, dwi ishe'r cam nesaf a mynd amdani."

Neges Mari

"Unrhyw un sy'n poeni bod rhywbeth yn newid ynglŷn â'u cyrff nhw, ewch at y doctor yn syth.

"Er canmol y gwasanaeth iechyd mae 'na dal aros o'ch blaenau chi. Mae aros adre yn meddwl ac yn poeni ddim yn llesol - ewch i'r doctor a gobeithio fydd ddim angen poeni ymhellach. Ond os mae fe, chi ar y siwrne a chi yn y system i gael eich trin cyn gynted â phosib."

Pynciau cysylltiedig