Colli 11 swydd yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ardd Fotaneg Genedlaethol wedi cadarnhau y bydd yr hyn sydd yn cyfateb i 11 swydd llawn amser yn cael eu colli oherwydd costau cynyddol.
Mae'r ardd yn Llanarthne, Sir Gaerfyrddin, wedi cadarnhau y bydd yna ostyngiad o 22% mewn lefelau staffio yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf (2024-25) oherwydd "pwysau sylweddol yn ymwneud â chostau".
Y cynnydd yn yr isafswm cyflog cenedlaethol yn 2023 a 2024 a'r cynnydd ym mhris biliau cyfleustodau sydd yn cael y bai.
Yn ôl rheolwyr yr ardd, fe fydd y mwyafrif o swyddi yn cael eu colli trwy ddiswyddiadau gwirfoddol, gyda'r broses i gael ei chwblhau erbyn diwedd mis Chwefror.
Ar hyn o bryd, mae gan yr ardd gyfanswm o 85 o weithwyr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2022