Rhybudd oren am eira a rhew yn y gogledd ddydd Iau

  • Cyhoeddwyd
RhybuddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd/BBC
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y rhybudd oren mewn grym rhwng 08:00 a 15:00 ddydd Iau

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd oren am eira a rhew ar gyfer rhannau helaeth o'r gogledd ddydd Iau.

Daw'r rhybudd oren i rym am 08:00 a bydd yn dod i ben am 15:00, dolen allanol - gyda disgwyl hyd at 15cm o eira ar dir isel, a hyd at 25cm ar dir uwch na 200m.

Mae'r rhybudd diweddaraf yn berthnasol i siroedd Conwy, Dinbych, Y Fflint, Gwynedd, Powys a Wrecsam.

Mae'r swyddfa'n rhybuddio bod rhywfaint o drafferthion i deithwyr yn debygol, tra'i bod hi hefyd yn bosib y bydd cyflenwadau trydan yn cael eu heffeithio mewn mannau.

Roedd rhybudd melyn am eira eisoes wedi ei gyhoeddi ar gyfer gogledd a chanolbarth Cymru ddydd Iau a bore Gwener.

Bydd y rhybudd hwnnw mewn grym rhwng 06:00 ddydd Iau a 06:00 dydd Gwener.

Glaw i'r de

Bydd rhybudd melyn am law hefyd mewn grym rhwng 02:00 fore Iau a 06:00 fore Gwener ar hyd rhannau helaeth o'r de.

Fe allai'r tywydd garw achosi trafferthion ar y ffyrdd tra bod llifogydd hefyd yn bosib.

Mae'r rhybudd yn berthnasol i holl siroedd y de-ddwyrain a Phowys.

Pynciau cysylltiedig