Dyn wedi marw ar ôl llawdriniaeth breifat i golli pwysau

  • Cyhoeddwyd
Phil Morris gyda bachgenFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Phil Morris ddiagnosis diabetes yn 1995, ac wedyn apnoea cwsg yn 2007

Bu farw dyn ar ôl llawdriniaeth i golli pwysau mewn ysbyty preifat, clywodd cwest.

Bu farw Phil Morris, o Gasnewydd, yn Ysbyty Spire St Anthony's yn Cheam, Surrey, ym mis Rhagfyr 2021, bedwar diwrnod ar ôl llawdriniaeth gastrectomi.

Gobaith Mr Morris, 48, oedd y byddai'n dychwelyd adref ddeuddydd ar ôl y llawdriniaeth, ond dechreuodd ei gyflwr waethygu.

Wrth roi tystiolaeth yn Llys Crwner De Llundain, dywedodd gwraig Mr Morris, Dana, fod ei gŵr wedi dewis mynd yn breifat oherwydd oedi gyda thriniaeth y Gwasanaeth Iechyd.

Roedd Mr Morris yn actor, awdur, darlithydd prifysgol, ac yn un o sylfaenwyr y Wales Arts Review, yn rheolwr gyfarwyddwr o 2012 i 2016.

Symudodd y teulu i dde Llundain o Gasnewydd yn 2016.

Diagnosis diabetes

Clywodd y cwest fod Mr Morris wedi cael diagnosis diabetes math un yn 1995, ond casgliad asesiad pellach yn 2017 oedd bod ganddo diabetes math dau mewn gwirionedd.

Cafodd hefyd ddiagnosis o apnoea cwsg yn 2007.

Cafodd Mr Morris asesiad bariatrig yn 2018 ond nid oedd yn gallu cael y driniaeth bryd hynny oherwydd nad oedd y diabetes dan reolaeth.

Yn ôl y GIG, mae gastrectomi yn golygu tynnu rhan fawr o'r stumog i'w wneud yn llawer llai nag yr oedd o'r blaen, sy'n golygu bod unigolyn yn teimlo'n llawn yn gynt, ac yn bwyta llai.

Yn ddiweddarach fe gafodd y llawdriniaeth yn breifat yn 2021 oherwydd oedi cyn cael triniaeth gan y GIG, clywodd y cwest.

Bu farw yn yr ysbyty yn oriau mân y bore ar 10 Rhagfyr 2021.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dana Morris fod ei gŵr yn cael trafferth llyncu ac yn fyr o anadl yn dilyn y llawdriniaeth

Roedd tystiolaeth Mrs Morris, gafodd ei darllen i'r llys, yn dweud bod ei gŵr yn cael trafferth llyncu a'i fod yn fyr o wynt yn yr oriau ar ôl y llawdriniaeth, a bod ei gyflwr wedi gwaethygu dros y dyddiau canlynol.

Dywedodd Mrs Morris ei bod hi'n pryderu ar ôl i'w gŵr yrru llun o'i hun yn yr ysbyty ychydig ddyddiau ar ôl ei lawdriniaeth.

Dywedodd ei bod hi wedi'i hofni ac yn teimlo'n sâl oherwydd y golwg ar ei wyneb, fel rhywun oedd wedi cael strôc, meddai.

Ychwanegodd ei bod hi'n teimlo fel bod y llawfeddyg wedi diystyru pryderon ei gŵr.

'Rhy hwyr' i'w achub

Cafodd Mrs Morris ei galw i'r ysbyty'r noson cyn iddo farw ar ôl cael gwybod ei fod wedi gadael yr ysbyty, a'i fod mewn cyflwr aflonydd tu allan.

Disgrifiodd sut oedd Mr Morris wedi drysu ac yn dweud wrth eu mab i redeg gan nad oedd yn le diogel yno.

Cafodd Mr Morris ei berswadio i ddychwelyd i'r ward i dderbyn triniaeth.

Dychwelodd Mrs Morris adref tua 23:00 y noson yna, cyn cael galwad yn ystod oriau man y bore i ddweud bod ei gŵr wedi marw.

Clywodd y cwest hefyd gan Dr Anwar Hussain, anesthetydd ymgynghorol a weithiodd gyda'r ysbyty.

Dywedodd wrth Grwner De Llundain, Sarah Ormond-Walshe, ei fod wedi ei alw i'r ysbyty am tua hanner nos ar 9 Rhagfyr 2021 er mwyn helpu gydag adfywio Mr Morris.

Dywedodd ei fod yn ymwybodol bod meddygon eraill wedi bod yn gweithio ers tro i geisio adfywio Mr Morris, a'i fod wedi cael trafferth yn ceisio cael mynediad at ei lwybr anadl i'w awyru.

Dywedodd Dr Hussein wrth y crwner ei bod yn debygol ei fod yn rhy hwyr i achub Mr Morris erbyn iddo gyrraedd yr ysbyty.

Mae'r cwest yn parhau.

Pynciau cysylltiedig