Cyngor yn ymddiheuro am gau ysgolion cyn rhybudd eira

  • Cyhoeddwyd
GwernymynyddFfynhonnell y llun, Tim Haywood
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gwernymynydd ger Yr Wyddgrug yn un o'r ardaloedd welodd eira ddydd Iau

Mae cyngor yn y gogledd wedi ymddiheuro am gau ysgolion y sir yn sgil rhybudd eira, wrth i effaith y tywydd fod yn llai na'r disgwyl fore Iau.

Nos Fercher, roedd rhai ysgolion yn y gogledd ddwyrain wedi cyhoeddi y byddant ar gau ddydd Iau yn sgil rhybudd am dywydd garw.

Roedd hynny'n cynnwys pob ysgol yn Sir y Fflint - 78 i gyd - ar gais y cyngor sir, yn ogystal â rhai ysgolion yn Wrecsam, dolen allanol a Phowys, dolen allanol.

Er hynny, fe wnaeth Cyngor Sir y Fflint ymddiheuro am y tarfu ar rieni, wrth i effaith yr eira fod yn llai na'r disgwyl yn ystod y bore.

Ond mae eira bellach wedi cyrraedd mannau yn y gogledd ddwyrain, yn enwedig ar dir uwch.

Ffynhonnell y llun, Paul Divall-Simmons
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na eira wedi disgyn yn Rhosllannerchrugog, ger Wrecsam

Pa ysgolion sydd ar gau?

Ffynhonnell y llun, Jamie Stokes
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa yn Helygain, Sir y Fflint ddydd Iau

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd oren am eira a rhew gan effeithio ar siroedd Conwy, Dinbych, Y Fflint, Gwynedd, Powys a Wrecsam.

Daeth i rym am 08:00 ac fe fydd yn para tan 15:00 ddydd Iau.

Mae rhybudd melyn am eira hefyd wedi ei gyhoeddi ar gyfer gogledd a chanolbarth Cymru rhwng 06:00 ddydd Iau a 06:00 dydd Gwener.

Penderfyniad cywir i gau ysgolion?

Ar wefannau cymdeithasol, mae penderfyniad i gau ysgolion Sir y Fflint wedi ei feirniadu gan rai, gydag un ei eu alw'n "gwbl warthus", am ei fod yn "achosi i rieni golli arian drwy beidio gweithio".

Gofynnodd un arall am "ad-daliad am golli diwrnod o waith" oherwydd y penderfyniad i gau ysgolion, tra bod un arall yn dweud bod ei mab yn colli arholiadau ddydd Iau gan fod yr ysgolion wedi cau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Bronwen Hughes bod rhaid ystyried diogelwch pan ddaw rhybudd am dywydd garw

Er nad oes eira wedi disgyn ar hyn o bryd, mae Bronwen Hughes, Pennaeth Ysgol Maes Garmon yn Yr Wyddgrug wedi amddiffyn y penderfyniad.

"Fe gafon ni wybod bod y rhybudd wedi codi i ambr yn ystod y bore a mi fuodd yna sawl cyfarfod ar lefel sirol cyn iddyn nhw benderfynu bod nhw am gau yr holl ysgolion", meddai ar Dros Frecwast.

"Mae'n rhaid i ni ystyried o hyd materion diogelwch - ein dysgwyr a'n staff i fedru cyrraedd ein safle ni yn ddiogel ond hefyd i gyrraedd adre. Does na ddim byd gwaeth nag eira yn disgyn ganol bore, amser cinio ac yna poeni sut mae pawb am gyrraedd adra'n ddiogel.

"Dydi hi ddim wedi bod yn benderfyniad hawdd wrth gwrs. Fe gafon ni ebost oedd yn rhoi cyfarwyddiadau clir o ran cau yr ysgolion felly dyna be' wnaethon ni."

Disgrifiad o’r llun,

Glawog oedd hi yn Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug, fore Iau

Mae'r cynghorydd sy'n gyfrifol am addysg ar Gyngor Sir y Fflint wedi ymddiheuro am y tarfu, gan "gydnabod yr heriau o ran gofal plant".

Dywedodd Mared Eastwood bod y cyngor yn ceisio "lleihau'r tarfu" drwy gau ysgolion, ac y byddai'n rhoi cyfle i gynllunio ar gyfer dysgu ar-lein.

Ychwanegodd bod disgwyl i ysgolion fod ar agor ddydd Gwener.

Yn ddiweddarach, dywedodd prif weithredwr y cyngor bod y penderfyniad i gau ar sail gwybodaeth y Swyddfa Dywydd a'r heddlu.

Dywedodd Neal Cockerton bod y cyngor wedi bod yn "rhagweithiol" cyn bod "sefyllfa beryglus" wedi datblygu.

"Ein bwriad oedd osgoi bod plant yn sownd yn aros am fysiau pe bai trafnidiaeth yn cael ei ganslo, neu wynebu gorfod gadael yn ystod y dydd, sy'n fwy heriol.

"Er ein bod yn deall bod rhai rhieni a gofalwyr yn rhwystredig gyda'r penderfyniad, cafodd ei wneud er mwyn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Traffig Cymru Gogledd-Chanolbarth

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Traffig Cymru Gogledd-Chanolbarth

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio bod rhywfaint o drafferthion i deithwyr yn debygol, a'i bod hi hefyd yn bosib y bydd cyflenwadau trydan yn cael eu heffeithio mewn mannau.

Dywedodd asiantaeth Traffig Cymru bod amodau'n wael ar rai ffyrdd yn y gogledd ddwyrain ganol bore Iau, gan annog gyrwyr i bwyllo.

"Cymrwch ofal ychwanegol," yw cyngor Heddlu Gogledd Cymru, gan fod bosib i'r tywydd rhewllyd "wneud gyrru a cherdded yn anodd mewn rhai mannau".

"Os oes rhaid i chi deithio, cynlluniwch o flaen llaw, gyrrwch i'r amodau a cofiwch gadw digon o bellter rhwng chi a'r cerbyd o'ch blaen."

Pynciau cysylltiedig