Cofio priodas fawr ym Môn yn 1895

  • Cyhoeddwyd
Y diweddar Thomas Prichard a Maud Jones
Disgrifiad o’r llun,

Y diweddar Thomas Prichard a Maud Jones

Roedd dydd San Ffolant 1895 yn ddiwrnod rhamantus iawn ar Ynys Môn wrth i filoedd o drigolion yr ynys ddathlu priodas fawreddog.

Ar 14 Chwefror 1895 fe briododd Thomas Prichard â Maud Jones.

Roedd Thomas yn asiant tir i Ystad Bodorgan a Maud yn ferch i berson y plwyf yn Llandyfrydog; y ddau o statws.

I ddathlu priodas y ddau gariad, cynhaliwyd diwrnod o fabolgampau i'r cyhoedd yn Llannerch-y-medd. Roedd y cystadlaethau'n cynnwys ras fulod, ras datws, naid hir, ras feics a ras briodas arbennig.

Ar dir Llwydiarth-Esgob, Llannerch-y-medd oedd y briodas, lle mae eu hŵyr, Tom Bown, yn byw hyd heddiw.

"Mi wnaeth Taid a Nain briodi ar ddiwrnod Valentine's, 1895," eglurodd.

"Roedd o'n ddiwrnod mawr iawn, nid jest i bobl Llannerch-y-medd ond i bobl Sir Fôn achos roedd fy nhaid yn asiant i 'Stad Bodorgan amser hynny 'te.

"Ac oedd y tenantiaid a pawb yn 'neud lot efo fo i ddathlu y briodas."

Ras o Landyfrydog i Lannerch-y-medd

Roedd Maud a Thomas Prichard wedi marw erbyn geni Tom, ond mae hanes y diwrnod mawr yn fyw hyd heddiw diolch i raglennni priodas, lluniau, posteri a llyfr arbennig sy'n cael eu trysori ganddo.

Tom sy'n adrodd hanes y ras briodas arbennig rhwng pentrefi Llandyfrydog, lle magwyd ei Nain a phentref Llannerch-y-medd, lle cynhaliwyd diwrnod o fabolgampau.

"Un o'r rasys oedd rhedag o eglwys Llandyfrydog i Lannerch-y-medd ac oedd na preis reit dda 'de.

Disgrifiad o’r llun,

Tom Bown gyda'i wraig Jane a llyfr a roddwyd i'w nain a daid fel anrheg priodas gan ffermwyr Ynys Môn

Y wobr am ennill y ras oedd 20 swllt, sef punt, a darn o deisen briodas.

"Wedyn oedd yna bentwr o hogia o Lannerch-y-medd isio rhedeg y ras ond aeth un hogyn o Walchmai yna a 'nath o redeg yn erbyn pobl Llanerch-y-medd mewn traed noeth.

"Am ei bod hi ganol gaeaf oedd 'na ychydig bach o eira ar y llawr. Eniwe, oedd o'n medru rhedag mewn traed noeth a mi ddaru fo guro y ras!

"Wedyn oedd hogia Llannerch-y-medd am ei ladd o am ei fod o wedi mynd â'r preis, roedd rhaid iddo ddenig yn ôl i Gwalchmai i fod yn glir ohonyn nhw," chwarddai Tom.

Addurniadau

Ar ben diwrnod llawn o fabolgampau roedd dathliadau cyhoeddus eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Addurno Llannnerch-y-medd gyda bwa o flodau

"Yn Llannnerch-y-medd ddaru nhw adeiladu dau fwa ar draws y stryd ac addurno fo efo blodau.

Disgrifiad o’r llun,

Addurno Llannnerch-y-medd gyda bwa o flodau

"Oedd y bwa mor gryf oedd pobl yn mynd ar eu top nhw i weld be' oedd yn mynd ymlaen," esboniai Tom.

Un arall sydd wrth ei bodd â'r hanes yw Jane, gwraig Tom. Mae hi'n rhyfeddu at y gweithgareddau oedd yn rhan o'r diwrnod:

"Mae 'na wbath gwahanol yn fan'ma; casglu pytatw. 'Dan ni ddim yn deud pytatw heddiw, tatws 'dan i'n ddeud yntê."

Disgrifiad o’r llun,

Rhaglen y mabolgampau neu'r 'chwareu-gampau' fel y cafodd ei alw yn 1895

Syndod arall iddi yw gweld ras feic mor gynnar â 1895. Chafodd beic dwy olwyn ddim ei ddyfeisio tan 1917.

Mae hyn yn brawf i ba mor bwysig oedd y diwrnod yn ôl Jane. Tom sy'n egluro pam i'w nain a'i daid fod yn bobl mor ddylanwadol ar yr ynys:

"Rhaid i chi gofio, oedd fy nhaid yn asiant tir i 'Stad Bodorgan. Roedd ganddyn nhw gymaint o dir; amser hynny oeddach chi'n medru cerdded o un pen o Sir Fôn i ben arall ar dir Bodorgan felly roedd o'n bwysig iawn edrych ar ôl y ffermydd.

Disgrifiad o’r llun,

Un o bosteri'r dathliadau

"Oedd fy nhaid yn well known yn Sir Fôn hefyd am ei fod o'n perthyn i'r druidical society.

"Roedd y druidical society amser hynny yn bobl o'r stadau a doctoriaid ac oeddan nhw'n rhoi hyn a hyn o bres i mewn bob tro oeddan nhw yn cael cyfarfod at achosion da - os oedd 'na wbath wedi digwydd ar y môr - rhoi pump guineas neu wbath fel'na i helpu.

"Un peth oedd y druidical society yn ei neud oedd trio promotio ffarmio yn Sir Fôn. Be' oeddan nhw'n 'neud oedd rhoi premiums - cae o rwdins, cae o geirch neu wartheg gora', gwerth tua pump guineas. Dyna sut ddechreuodd Primyn Môn [cystadleuaeth yn Sioe Môn]."

Coelcerthi ledled Môn

Nid dim ond trigolion Llandyfrydog a Llannerch-y-medd fu'n dathlu ar 14 Chwefror 1895. Roedd dathliadau ledled yr ynys, yn lle bynnag roedd gan Ystad Bodorgan dir… ac roedd gan y stad 18 mil o aceri i gyd!

Fe gadwodd Maud, nain Tom, bapurau newydd o'r cyfnod gan ludo erthyglau o'r papurau lleol oedd yn cynnwys yr hanes mewn llyfr. Mae'r llyfr bach yn datgelu mwy am y diwrnod a lle bu'r dathliadau:

"Mae'r llyfr yma'n hynod o ddiddorol," meddai Jane.

Disgrifiad o’r llun,

Llythyr am ddathliadau priodas Mr a Mrs Jones i blwyfi Ynys Môn

"Mae'n rhaid bod nain Tom wedi codi pob darn o bapur newydd efo hanas eu priodas a mae o'n werth ei weld. Mae'r ysgrifen yn berffaith glir tu mewn iddo fo.

"Ac mi oedd taid Tom wedi penderfynu pan oedd o'n priodi bod o'n rhoi glo i bawb oedd ar y stad a ddim yn gyfoethog - pobl dlawd.

"Oedd yna goelcerthi ar hyd yr ynys. Mi oedd 'na un ar ben y foel - y tir uchal sydd tu cefn i mi fan hyn yn Llannerch-y-medd a'r pentrefi erill sydd ar Môn oedd yn rhan o Ystad Bodorgan.

"Roedd o'n ddigwyddiad mawr i'r ynys. Mae'r llyfr yma'n sôn am ddathliadu o Langadwaladr, Bodorgan, Llannerch-y-medd, Amlwch, Bodedern, Llanfair-Mathafarn-Eithaf, Bryngwran, Amlwch, Llyn Llaethdy..."

Cofio cariad ei nain a'i daid

Yn brawf i'r parch oedd gan gymuned amaethyddol Ynys Môn at Thomas a Maud Prichard, roedd gan ffermwyr yr ynys anrheg i'r gŵr a gwraig newydd sef llyfr hardd.

Jane sy'n ei ddisgrifio: "Mae o'n unigryw iawn ac yn hynod o drwm a'r lliwiau cyfoethog sydd o'i amgylch ar bob dudalen. Mae clawr y llyfr yn bren ac ar y blaen mae yna fochyn gwyllt, emblem y teulu."

Disgrifiad o’r llun,

Y llyfr clawr pren gafodd Mr a Mrs Prichard yn anrheg

Cyflwynwyd yr anrheg yma i Mr a Mrs Prichard wythnos ar ôl eu priodas yn sgwâr Llannerch-y-medd.

Er bod 129 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers priodas Mr Thomas Prichard a Miss Maud Jones, mae cofio hanes a chariad ei nain a'i daid yn destun balchder mawr i Tom Bown, hyd heddiw.

"Mae o'n gwneud fi'n prowd iawn bod y peth wedi digwydd. Mae'n dangos faint o feddwl oedd gan bobl Sir Fôn ohonyn nhw," meddai Tom.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig