Rhybudd melyn am law trwm i rannau helaeth o'r de

  • Cyhoeddwyd
Map rhybudd tywydd dydd Iau 15 ChwefrorFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybudd yn berthnasol i 14 o siroedd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd am law trwm ar gyfer rhan helaeth o dde Cymru ddydd Iau.

Daeth i rym am 11:00 ac mae'n para tan 23:59.

Fe allai'r amodau achosi trafferthion i deithwyr a llifogydd ar ffyrdd.

Mae disgwyl 15-20mm of law mewn sawl man, ac mae 30-40mm yn debygol ar dir uchel, ond fe fydd y cawodydd yn dechrau cilio wedi iddi nosi.

Mae'r rhybudd yn weithredol yn 14 o siroedd Cymru: Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gâr, Merthyr Tudful, Mynwy, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Pynciau cysylltiedig