Buddsoddiad mwyaf erioed o £6m i'r Cymru Premier
- Cyhoeddwyd
![Y Seintiau Newydd yn codi tlws y Cymru Premier](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/A20E/production/_132668414_2023-04-22-tnsvconnahsquaynomads-68.jpg)
Y Seintiau Newydd yn codi tlws y Cymru Premier
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi cyhoeddi y bydd yn buddsoddi dros £6m yng nghynghrair y Cymru Premier.
Dyma fydd y buddsoddiad unigol mwyaf erioed yn haen uchaf pêl-droed yng Nghymru.
Fe fydd yr arian yn mynd at ddatblygu'r gynghrair rhwng nawr a diwedd tymor 2026/27.
Mae'r nodau'n cynnwys "codi proffil, safon a strwythur y gêm ar ac oddi ar y cae" a chryfhau cysylltiadau gyda chymunedau lleol fel rhan o strategaeth bedair blynedd.
Y gobaith yw y "bydd pawb yn gweld newidiadau positif yn fuan iawn".
'Newid i faint y gynghrair'
"Mae gyda ni gynghrair sydd ddim yn ddigon cryf ar gyfer y diwylliant pêl-droed sydd yma," meddai prif weithredwr CBDC, Noel Mooney wrth BBC Cymru.
Mae hi'n "glir i'r clybiau y bydd yna newid i faint y gynghrair", meddai, ynghyd â "newid i'r ffordd 'dyn ni'n rhoi adnoddau i'r gynghrair".
Dywedodd eu bod "wedi cael problemau, er enghraifft, gyda gweinyddiaeth y gynghrair", a bod angen buddsoddi mewn marchnata'r Cymru Premier.
![Noel Mooney](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/10225/production/_125358066_mediaitem125358065.jpg)
Fe fydd codi proffil yr haen uchaf yn llesol yn y pendraw i bob lefel o'r gêm, yn ôl Noel Mooney
"Er enghraifft, mae gyda ni gytundeb nawr gyda [rhaglen] Sgorio yn yr iaith Gymraeg, felly rydyn ni'n dangos gemau'n fyw ar Sgorio, ond rhaid i ni hefyd wneud yn siŵr eu bod yn mynd allan yn yr iaith Saesneg hefyd," meddai.
Ychwanegodd y byddai codi proffil yr haen uchaf yn llesol maes o law i'r cynghreiriau is.
"Wrth i'r Cymru Premier ddod yn fwy llwyddiannus, ry'ch chi'n cael mwy o dorfeydd, mwy o arian yn dod i'r gêm a fydd yn cael effaith yn ei dro ar Haen 2 a Haen 3 a'r gêm ar lawr gwlad."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2024