Merch, 4, o Sir Gâr yn yr ysbyty wedi ymosodiad ci

  • Cyhoeddwyd
Rayven yn yr ysbytyFfynhonnell y llun, Charis Sebastian
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Rayven anafiadau difrifol yn y digwyddiad, er nad ydyn nhw'n rhai sy'n peryglu neu'n newid bywyd

Rhybudd: Mae'r erthygl yn cynnwys llun o anaf all beri gofid.

Mae plentyn yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn ymosodiad gan gi yn Sir Gaerfyrddin.

Cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi cael eu galw i Gae Grug, Caerfyrddin am 18:15 nos Lun, yn dilyn adroddiadau fod ci wedi brathu plentyn.

Cafodd y plentyn ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol ond sydd ddim yn peryglu neu'n newid bywyd.

Yn ôl mam y plentyn - merch bedair oed - fe fu'n rhaid iddi gael llawdriniaeth ac mae hi'n parhau i fod yn yr ysbyty.

Nabod y ci'n dda

Ar Facebook, cadarnhaodd Charis Sebastian fod ci wedi ymosod ar ei merch, Rayven, yn y stryd nos Lun.

Roedd ei merch yn nabod y ci yn dda, meddai, ac yn chwarae gyda'r ci bron yn ddyddiol.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Roedd yr anifail tua pump i chwech troedfedd oddi wrth ei merch cyn neidio arni, meddai.

Dywedodd fod anafiadau ei merch yn eithaf drwg a'i bod wedi gorfod cael llawdriniaeth.

Fe ddiolchodd i bawb am eu cefnogaeth gan ddweud eu bod yn cydymdeimlo â pherchennog y ci wedi'r hyn mae hi'n ei alw'n "ddamwain".

Mewn datganiad, fe ddywedodd yr heddlu fod y ci wedi ei atafaelu ac yn cael ei gadw mewn cynel diogel.

Ychwanegodd bod perchennog y ci yn rhoi cymorth i'r ymchwiliad i'r achos.

Mae ymholiadau'n parhau hefyd i ganfod brid y ci, yn ôl y llu.

Pynciau cysylltiedig