Rhybuddion llifogydd mewn grym wedi glaw trwm
- Cyhoeddwyd
Mae rhybuddion am lifogydd mewn grym mewn rhannau o Gymru yn dilyn cyfnodau o law trwm.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi dau rybudd, dolen allanol ar gyfer Afon Rhyd Hir ym Mhwllheli, Gwynedd, ac Afon Tywi yn ardal Llandeilo, Sir Gâr.
Dywedodd CNC fod lefelau'r dŵr yn parhau i godi yn y ddau leoliad, a bod llifogydd yn debygol.
Mae'r awdurdod hefyd wedi cyhoeddi dros 30 o rybuddion 'byddwch yn barod' ar draws y wlad.
Mae rhybudd melyn am law trwm yn parhau mewn grym ar gyfer de ddwyrain Cymru hyd nes 14:00 ddydd Iau.