Rhybudd melyn am law trwm i'r mwyafrif helaeth o Gymru
- Cyhoeddwyd

Mae'r rhybudd yn berthnasol i bob sir oni bai am Ynys Môn a Sir y Fflint
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm ar gyfer rhannau helaeth o Gymru.
Mae'r rhybudd yn dod i rym am 00:00 fore Gwener, ac mae'n para tan 15:00.
Bydd yn weithredol ar gyfer pob sir yng Nghymru oni bai am Ynys Môn a Sir y Fflint.
Mae disgwyl hyd at 15mm o law yn eang ar draws ardal y rhybudd, ac efallai hyd at 30mm mewn mannau.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai gael effaith ar systemau trafnidiaeth, ac y gallai'r glaw droi'n eira ar dir uchel.