Ci wedi ei ddifa ar ôl ymosod ar blentyn pedair oed
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r erthygl yn cynnwys llun o anaf all beri gofid.
Mae ci wedi ei ddifa ar ôl iddo ymosod ar blentyn pedair oed yng Nghaerfyrddin.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys mai pocket bully oedd y ci ac nad yw'r math yna o gi wedi ei wahardd ond fod y ci bellach wedi ei ddifa yn dilyn caniatâd y perchennog.
Cafodd Rayven, pedair oed, ei chludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol ond nad oedd yn peryglu neu'n newid bywyd yn dilyn yr ymosodiad yng Nghae Grug, Caerfyrddin, am 18:15 ar 19 Chwefror.
Dywedodd ei mam ei bod yn chwarae ar y stryd pan wnaeth y ci ymosod arni.
Dywedodd Charis Sebastian fod y ci tua 5 i 6 troedfedd (1.5 i 1.8m) i ffwrdd o Rayven pan wnaeth ymosod arni ac ychwanegodd fod y ci yn adnabod ei merch yn "hynod o dda".
Dywedodd Ms Sebastian fod anafiadau Rayven yn "eithaf gwael" a'i bod angen llawdriniaeth.
Fe ddisgrifiodd Ms Sebastian yr ymosodiad fel "damwain nad oedd neb wedi ei rhagweld" a'i bod yn cydymdeimlo â'r perchennog.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror