Dynes 60 oed yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Stryd Minny, CaerdyddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar Stryd Minny am tua 01:00 fore Sul

Mae dynes 60 oed wedi cael ei hanafu'n ddifrifol ar ôl cael ei tharo gan gar yng Nghaerdydd fore Sul.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar Stryd Minny yn ardal Cathays y ddinas am tua 01:00 wedi adroddiadau o wrthdrawiad rhwng car a cherddwr.

Cafodd y ddynes ei chludo i'r ysbyty ar ôl dioddef anafiadau difrifol.

Mae dyn 32 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac mae ymholiadau'r heddlu yn parhau.

Pynciau cysylltiedig