Tîm rygbi dan-18 Cymru yn serennu yn erbyn Yr Alban

  • Cyhoeddwyd
Tim rygbi Cymru dan 18

Wrth i dîm rygbi Cymru baratoi i wynebu Ffrainc yn y Chwe Gwlad brynhawn Sul, mae 'na obaith mawr am y dyfodol wrth i sêr ifanc Cymru ddangos eu doniau.

Fe wnaeth tîm dan-18 Cymru'n herio tîm dan-18 Yr Alban yn ddiweddar fel rhan o'u paratoadau ar gyfer Gŵyl y Chwe gwlad fydd yn cael ei chynnal yn Parma yn Yr Eidal ddiwedd y mis.

Cafodd 46 o chwaraewyr gyfle i wneud argraff mewn dwy gêm gystadleuol yn Ystrad Mynach o dan lygaid barcud y prif hyfforddwr Richie Pugh.

Enillodd y tîm datblygu o 29-22, gyda'r tîm cyntaf yn fuddugol o 43-10.

'Maen nhw'n gweithio mor galed'

Dywedodd Gareth Wyatt, sy'n aelod o'r tîm hyfforddi, ei fod yn "blês iawn â'r chwaraewyr a dweud y gwir".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gareth Wyatt mai dewis y tîm yw "pa mor bell maen nhw ishe mynd â'r dalent hwnnw eleni"

"Maen nhw'n gweithio mor galed ac mae grŵp talentog iawn yma", meddai.

"Just siarad â nhw ar y diwedd fel hyfforddwyr - mae lan iddyn nhw pa mor bell maen nhw ishe mynd â'r dalent hwnnw eleni."

'Isie dod adref'

Yn arwain ei wlad am y tro cyntaf oedd y canolwr ifanc o ardal Pontypridd, Steffan Emanuel sydd newydd lofnodi cytundeb proffesiynol gyda thîm cyntaf Rygbi Caerdydd, a hynny ar ôl treulio cyfnod yn Ysgol Millfield a Chaerfaddon.

"Oedd e'n sbesial. Gêm gyntaf i lawer o'r bois, felly i ddod mas a pherfformio fel wnaethon ni heddiw, roedd e'n berfformiad balch iawn".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Steffan Emanuel ei fod yn "teimlo'n dda i ddod nôl" i Gymru i chwarae

O ran ei benderfyniad i ddychwelyd i chwarae dros ranbarth yng Nghymru mae'n cydnabod iddo bendroni am beth amser.

"Roedd llawer o chats gyda mam, dad a'r teulu a gwahanol bobl, ond just teimlo bo fi isie dod adref.

"Mae Bath wedi bod yn ardderchog gyda fi a sai'n gallu dweud unrhyw beth gwael amdanyn nhw, ond fi'n meddwl y ffordd mae rygbi Cymru'n mynd ar y funud, mae'n teimlo'n dda i ddod nôl."

Yn wir, Steffan groesodd am gais agoriadol Cymru.

Roedd cais hefyd i Lewis Edwards (Gweilch) a dau yr un i'r cefnwr Jack Woods (Dreigiau) a'r asgellwr Joseff Jones (Caerdydd).

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y tîm yn wynebu Iwerddon cyn i'r garfan derfynol gael ei chyhoeddi ar gyfer y Chwe Gwlad

"Dwi'n hapus achos fel gwnaeth y tîm chwarae", meddai Joseff Jones.

Ychwanegodd: "Da ni 'di bod yn gweithio'n galed dros y misoedd diwethaf. Ers Tachwedd diwethaf 'da ni 'di bod mewn a mas o camps...

"Da ni di bod yn gweithio'n galed.

"Mae dal lot i weithio arno ond bydd Iwerddon wythnos nesaf yn step lan, ond 'da ni'n hapus fel tîm a dwi'n hapus efo'r tries."

Cyn i'r garfan derfynol o 26 ar gyfer Gŵyl y Chwe Gwlad gael ei chyhoeddi, bydd gêm baratoi arall yn erbyn Iwerddon.

Yn yr un grŵp â Chymru yn Parma fydd Lloegr (30 Mawrth), Portiwgal (3 Ebrill) a Ffrainc (7 Ebrill).