Cymru'n cael gwybod eu grŵp rhagbrofol Euro 2025
- Cyhoeddwyd
Bydd tîm pêl-droed merched Cymru yn yr un grŵp â Croatia, Wcráin a Kosovo ar gyfer rowndiau rhagbrofol Euro 2025.
Cafodd yr enwau eu tynnu o'r het yn y Swistir ddydd Mawrth.
Hon fydd ymgyrch gyntaf Rhian Wilkinson fel rheolwr, wedi iddi gael ei phenodi fel olynydd i Gemma Grainger.
Cymru yw'r uchaf ar restr detholion FIFA yn y grŵp.
Mae Cymru yn brif ddetholion yng Nghynghrair B, gyda phedwar grŵp o bedwar.
Os bydd Cymru yn gorffen yn y tri safle uchaf yn y grŵp, yna mi fyddan nhw'n sicrhau gêm ail-gyfle.
Bydd y gemau yn cael eu cynnal rhwng mis Ebrill a Gorffennaf, gyda'r rowndiau terfynol yn y Swistir ym mis Gorffennaf 2025.
Yn siarad gyda BBC Cymru yn ddiweddarach dywedodd Wilkinson: "Mae yna dimau cryf yna, a thimau nad ydym yn gwybod gormod amdanynt.
"'Da ni erioed wedi wynebu Kosovo. Mae yna lawer o waith i'w wneud ar yr holl dimau.
"A bod yn onest dydw i ddim yn gwybod gormod am y gwrthwynebwyr, ond fel hyfforddwr dyma lle mae'r gwaith caled yn dechrau.
"Felly dyma sut y bydda i'n treulio'r wythnosau nesaf yn gwneud yn siŵr mod i'n adnabod y gwledydd yma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror
- Cyhoeddwyd10 Ionawr