Ystyried cau cartref gofal ger Aberystwyth yn 'anghyfrifol'
- Cyhoeddwyd
Byddai symud preswylwyr o gartref gofal yng Ngheredigion yn "anghyfrifol" ac yn "ergyd emosiynol" yn ôl rhai yn lleol.
Mae bwriad Cyngor Ceredigion i ymgynghori ar drosglwyddo preswylwyr y cartref yn Bow Street i Aberystwyth wedi codi pryderon.
Mewn datganiad i Cymru Fyw, cadarnhaodd Cyngor Ceredigion y byddai'n gofyn am gymeradwyaeth y cabinet ar 19 Mawrth i gynnal "ymgynghoriad ar gynnig i drosglwyddo preswylwyr a staff Cartref Tregerddan i Gartref Gofal Preswyl Hafan y Waun".
Ers mis Tachwedd Cyngor Ceredigion sy'n berchen ar gartref Hafan y Waun yn Aberystwyth, wedi i Methodist Homes (MHA) ei roi ar werth yn sgil "heriau gwirioneddol".
Dywed mab un o breswylwyr Tregerddan bod "ei fam wrth ei bodd yn y cartref a bod y newyddion yn gryn sioc".
"Dwi'n derbyn nad yw pobl yn gorfod mynd yn bell ond dydyn ni ddim am golli'r cartref o'r gymuned," meddai Penri James, cadeirydd Ffrindiau Cartref Tregerddan.
Penderfyniad 'anghyfrifol'
Mae Gwerfyl Pierce Jones yn ymwelydd cyson â'r cartref a dywed bod y penderfyniad yn un anghyfrifol.
"Mae hi'n bwysig cadw cartrefi Tregerddan a Hafan y Waun," meddai.
"Dwi methu coelio bod Cyngor Sir Ceredigion yn ystyried cau cartref preswyl Tregerddan mor fuan ar ôl cymryd drosodd y cyfrifoldeb am Hafan y Waun.
"Mae Tregerddan yn un o'n cartrefi gorau un ac mae angen pob gwely sydd yno. Rydym eisoes wedi colli Bodlondeb, a nawr mae sôn am gau un arall."
Ychwanegodd: "Gan dderbyn bod yna le i ehangu'r ddarpariaeth yn Hafan y Waun mae angen mwy o lawer o gapasiti fel y gŵyr unrhyw un sydd â chysylltiad â'r cartrefi gofal hyn.
"Ar y naill law, mae'r GIG yn cwyno am fethu symud cleifion o'r ysbyty, ac ar y llaw arall mae'r awdurdod lleol yn ystyried cau un arall o'n cartrefi gofal.
"Mae hyn yn hollol anghyfrifol mewn cyfnod pan mae Ysbyty Bronglais dan y fath straen. Mae angen defnyddio Hafan y Waun a Thregerddan i'w heithaf."
Y Cynghorydd Alun Williams yw dirprwy arweinydd y cyngor a'r Aelod Cabinet ar gyfer Gydol Oes a Llesiant.
Nid oedd yn fodlon cadarnhau adroddiadau nad yw cartref Hafan y Waun yn llawn yn sgil prinder staff, ond dywedodd mai bwriad y cyngor oedd "ei ddefnyddio i'w lawn gapasiti".
"Mae'r cyfleusterau yn Hafan y Waun yn foethus ac yn fodern," meddai.
"Tra bod y broses yn mynd rhagddi alla i ddim gwneud sylw pellach ond fe fydd ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater os yw'r cabinet yn cytuno ym mis Mawrth."
'Sioc i staff'
Roedd gweld adroddiadau yn y wasg yn "gryn sioc" i staff, ychwanegodd Penri James, ond dywedodd ei fod yn "falch nad yw'r cynllun yn bygwth swyddi'r staff gan y byddent yn cael eu trosglwyddo i Hafan y Waun".
"Rwy'n derbyn bod gwaith i'w wneud ar y cartref ond mae'n rhaid ystyried bod symud cartref yn gallu bod yn ergyd emosiynol i rai preswylwyr.
"Nid pob cartref sydd â chymdeithas ffrindiau ond mae Cymdeithas Ffrindiau Tregerddan yn weithgar iawn - ni wedi gallu codi arian ar gyfer cysgodfan ambiwlans, heulfan, cegin i deuluoedd, gwelyau arbenigol - pethau sydd ddim o fewn gofynion y cyngor sir.
"Mae'n gartef hapus ac er bo' ni'n deall y sefyllfa dydyn ni ddim am ei golli o'r ardal. Mae angen dybryd am gartrefi gofal yn y sir ac mae'n bwysig i nifer o'r preswylwyr eu bod yn cael aros yn eu cymuned."
Cadarnhaodd y cyngor eu bod yn berchen ar Gartref Gofal Preswyl Hafan y Waun ers mis Tachwedd 2023.
"Mae hyn wedi galluogi'r cyngor i ystyried cyfleoedd i sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o'r cartref, sydd â chyfleusterau ac adnoddau modern," medd datganiad.
"Mae lles preswylwyr, teuluoedd a staff Cartref Tregerddan yn flaenoriaeth i'r cyngor ac felly bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal gyda'r gofal mwyaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mai 2023
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2017