Dim newid rheolau bws ysgol yn 'hynod siomedig' - comisiynydd

  • Cyhoeddwyd
Efa Gruffudd JonesFfynhonnell y llun, COMISIYNYDD Y GYMRAEG
Disgrifiad o’r llun,

Mae Efa Gruffudd Jones yn dweud mai cludiant yw un o'r heriau mawr i gael addysg Gymraeg

Mae'n "hynod siomedig" na fydd newidiadau i reolau trafnidiaeth ysgol i blant, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.

Yn dilyn adolygiad, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad yw newidiadau mawr yn fforddiadwy.

Ymysg y mesurau oedd dan ystyriaeth oedd lleihau'r pellter sydd yn rhaid i blant deithio cyn bod yn gymwys am drafnidiaeth am ddim.

Dywedodd y comisiynydd, Efa Gruffudd Jones, mai cludiant yw un o'r rhwystrau mwyaf at addysg Gymraeg, a bod "heriau cyson".

Mae'r Comisiynydd Plant hefyd wedi beirniadu'r penderfyniad, gan ddweud ei bod yn ystyried herio'r llywodraeth ar y mater.

Beth yw'r rheolau ar hyn o bryd?

Mae awdurdodau lleol yn gorfod darparu trafnidiaeth i ddisgyblion sy'n byw dros dair milltir o'u hysgol uwchradd, neu ddwy filltir o'u hysgol gynradd.

Yn ôl y Comisiynydd Plant, Rocio Cifuentes, mae'r pellteroedd yna'n ormodol, ac fe allan nhw effeithio presenoldeb ysgolion.

Mae'r ffaith nad oes rheidrwydd ar gynghorau i ddarparu trafnidiaeth i ddisgyblion dros 16 oed, neu i bobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, hefyd yn bryder, meddai.

Dywedodd bod angen asesiadau risg hefyd ar gyfer plant sy'n cerdded i arosfannau bws.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones ei bod yn "allweddol" sicrhau cludiant hwylus i'r ysgol os yw'r llywodraeth am gyflawni targedau addysg Gymraeg.

Ychwanegodd bod "mynychu addysg cyfrwng Cymraeg yn parhau i fod yn ddewis anoddach a mwy costus i nifer o deuluoedd", ond bod "diffyg arweiniad clir a chadarn" ynghylch hyrwyddo mynediad at ysgolion Cymraeg.

"Rydym yn llawn sylweddoli ei bod yn gyfnod anodd o ran cyllidebau cenedlaethol a lleol, ond mae hefyd yn gyfnod anodd i deuluoedd a phlant a phobl ifanc", meddai.

"Nhw yn y pendraw fydd yn dioddef yn sgil diffygion cludiant i addysg Gymraeg ar draws Cymru."

Costau'n 'anfforddiadwy'

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod costau trafnidiaeth ysgol - sydd tua £160m y flwyddyn - wedi cynyddu'n sylweddol oherwydd prisiau tanwydd a diffyg bysiau a gyrwyr.

Dywedodd y byddai newidiadau i'r drefn bresennol yn golygu costau "sylweddol" sy'n "anfforddiadwy ar hyn o bryd".

Ychwanegodd bod newidiadau ehangach i wasanaethau bws yn gyffredinol yn golygu na fyddai'r newidiadau i drafnidiaeth ysgol yn parhau.

Bydd trafnidiaeth ysgol yn cael ei uno gyda gwasanaethau masnachol ble mae hynny'n bosib er mwyn lleihau "dyblygu drud", meddai'r dirprwy weinidog trafnidiaeth, Lee Waters.

Mae'r llywodraeth hefyd wedi addo "diweddariad llawn" i'r cyngor ar drafnidiaeth ysgol er mwyn cysoni'r sefyllfa ar draws Cymru.