Caerdydd: Ymchwiliad i farwolaeth 'heb esboniad'
- Cyhoeddwyd
![Swyddog heddlu yn Llandaf](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/D129/production/_132954535_llandaf2.jpg)
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal yn dilyn marwolaeth "annisgwyl" dyn yng Nghaerdydd.
Cafodd yr heddlu eu galw i safle ger Clwb Rygbi Llandaf ar Rodfa'r Gorllewin tua 03:00 ddydd Llun.
Dywedodd llefarydd Heddlu'r De eu bod yn trin y farwolaeth fel un "heb esboniad".
Mae'r llu wedi cau ardal o amgylch y clwb a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, a phont droed dros Rodfa'r Gorllewin.