Cofio Zonia Bowen: 'Rhydd-feddyliwr yw'r disgrifiad gorau ohona i'
- Cyhoeddwyd
Bu farw Zonia Bowen a sefydlodd fudiad Merched y Wawr yn 97 oed.
O dan ei harweiniad fe wnaeth cangen Sefydliad y Merched y Parc benderfynu ffurfio mudiad eu hunain ar ôl i swyddogion wrthod caniatáu iddyn nhw weinyddu'r gangen trwy gyfrwng y Gymraeg. Zonia oedd Ysgrifennydd Cenedlaethol cyntaf Merched y Wawr a golygydd cyntaf cylchgrawn Y Wawr.
Yn ddynes oedd yn driw i'w hegwyddorion cadarn, yn ieithydd, awdures ac anffyddwraig oedd yn fodlon herio tueddiadau cymdeithasol ei hoes, sgwrsiodd Cymru Fyw gyda Zonia yn ei chartref ger Caernarfon nôl yn 2015.
Ar y pryd, roedd y Saesnes o Swydd Efrog a gofleidiodd y Gymraeg ar fin cyhoeddi ei hunangofiant, Dy bobl di fydd fy mhobl i (Y Lolfa).
Dyma flas o'r sgwrs gafodd y ddiweddar Zonia Bowen gyda Chymru Fyw.
Saesnes o Swydd Efrog oedd Zonia Bowen. Ond yn 1967 fe wnaeth hi safiad dros yr iaith Gymraeg drwy herio polisi Saesneg Sefydliad y Merched (y WI) a sefydlu mudiad Cymraeg i ferched Cymru - Merched y Wawr.
Mae'r stori am sefydlu'r mudiad gyda merched y Parc ger y Bala yn cael ei dweud yn hunangofiant Zonia Bowen, 'Dy bobl di fydd fy mhobl i' (Y Lolfa).
Eglurai'n y llyfr pam wnaeth hi ymddiswyddo fel llywydd y mudiad ar ôl 10 mlynedd o wasanaeth.
Y tro yma roedd hi'n gwneud safiad ar sail crefydd, neu ddiffyg crefydd.
Roedd Zonia North, fel roedd hi cyn priodi, wedi ei magu'n ddi-grefydd.
Dywedodd o'r cychwyn na ddylai'r mudiad fod ag unrhyw gysylltiad gydag enwad crefyddol na phlaid wleidyddol "ond ei fod ar agor i bawb, ar yr un termau" ac fe gytunai'r aelodau a chyngor cenedlaethol cyntaf Merched y Wawr ar hynny.
Roedd yn cael ei ddisgrifio fel mudiad seciwlar ar y dechrau.
"Achosodd yr holl ddigwyddiad gryn anhapusrwydd i mi," meddai Zonia yn ei hunangofiant.
Anghydfod
"Hyd heddiw, dwi ddim yn credu bod aelodau cyffredin Merched y Wawr - hyd yn oed merched y Parc, Bala ble sefydlwyd y gangen gyntaf - yn gwybod yn iawn beth oedd gwir asgwrn cynnen yr anghydfod na fy rhesymau dros ymddiswyddo. O'r diwedd, dyma fi'n cael dweud fy ochr i o'r stori.
"Yn ogystal â sefydlu mudiad a fyddai'n dangos parch i'r iaith Gymraeg yn ei holl weithgareddau, roeddwn wedi rhagweld y byddai Merched y Wawr yn gymdeithas a fyddai'n parchu gwahaniaethau barn grefyddol ei aelodau, heb roi bendith swyddogol ar y naill yn fwy na'r llall," meddai "… ond cefais fy siomi.
"Os oedd Merched y Wawr yn mynnu rhoi bendith swyddogol ar gred rhai aelodau yn fwy nag ar gred aelodau eraill, a thrin yr olaf fel aelodau ailddosbarth, doeddwn i ddim yn fodlon eu bod nhw'n gwneud hynny yn fy enw i."
Ond teimlai fod "camargraff" wedi ei roi ar y pryd mai'r rheswm dros ei hymddiswyddiad fel Llywydd Anrhydeddus oedd ei bod yn gwrthwynebu cynnal gwasanaeth crefyddol yn ystod penwythnosau cenedlaethol y mudiad.
Doedd hynny ddim yn wir, meddai.
Ei gwrthwynebiad oedd fod rhai aelodau wedi "defnyddio llwyfannau a threfniadau swyddogol y mudiad i hyrwyddo eu crefydd hwy [Cristnogaeth] a rhai pobl eraill yn teimlo eu bod nhw'n cael eu cau allan o rai o'r cyfarfodydd o'r herwydd."
Mae cyfansoddiad y mudiad heddiw yn dweud ei fod "yn fudiad gwladgarol, yn amhleidiol yn boliticaidd ac yn anenwadol yn grefyddol."
Eglurai'r digwyddiadau a'i phryderon ar y pryd yn fanwl yn ei chyfrol.
Datgelai hefyd nad oedd hi'n disgwyl i'r mudiad bara', hyd yn oed yr adeg hynny: "Sylweddolais fod Merched y Wawr yn ymateb i'r angen a oedd yn bodoli ar y pryd, ond y byddai angen mudiad o fath arall o bosibl yn y dyfodol, a byddai'n rhaid derbyn hynny.
"Nid y mudiad ei hun a oedd yn bwysig ond y math o waith roedd yn gallu ei gyflawni tuag at ddyfodol yr iaith Gymraeg a'i ffyniant ar dafodau mamau a merched o bob oed."
'Mwy na Merched y Wawr'
Fe dorrodd Zonia ei chwys ei hun o'r dechrau a mynd ati i ddysgu Cymraeg, cyn bod sôn am wersi Cymraeg i oedolion, yn fuan ar ôl dod i'r Brifysgol ym Mangor i astudio Ffrangeg.
Pan sylweddolodd fod y rhan fwyaf o'i ffrindiau yn siarad Cymraeg, a theimlo "allan ohoni" oherwydd hynny, fe ddysgodd am ei bod "eisiau bod yn rhan o bethe".
"Dwi'n credu mai dyna be' sy'n bwysig heddiw, bod pobl ddi-Gymraeg eisiau bod yn rhan o'r bywyd Cymraeg felly mae fyny i'r Cymry wneud y bywyd Cymraeg mor ddiddorol bod pobl ishe bod yn rhan o hynny," dywedodd.
"Mae'r Cymry yn rhy dueddol o roi mewn a dechre siarad Saesneg os bydd grŵp o bobl i gyd yn siarad Cymraeg ond un.
"Ond pe bai fy ffrindiau ddim wedi parhau i siarad Cymraeg falle na faswn i wedi mynd ati fy hunan i ddysgu Cymraeg. Felly dwi'n teimlo ei bod hi fyny i'r Cymry Cymraeg eu hunain," meddai.
Yn wraig i'r diweddar Brifardd Geraint Bowen, ysgrifennodd lyfrau yn Gymraeg - am yr iaith Lydaweg a Dyneiddiaeth, a chyfrol sy'n cael ei hystyried yn awdurdod ar hanes Gorsedd y Beirdd gyda'i gŵr, oedd yn Archdderwydd rhwng 1979 a 1981.
Facebook, Plu a'r Bandana
Yn ôl yn 2015, o'i chartref ger Caernarfon, eglurodd sut y byddai'n dal i gymryd diddordeb yn y byd o'i chwmpas drwy ddefnyddio Facebook ac e-bost.
"Dwi'n credu bod e'n cadw rywun i wybod sut mae pobl yn meddwl heddiw," dywedodd.
Roedd y cyfryngau cymdeithasol yn ffordd iddi ddilyn gyrfaoedd cerddorol eu hwyrion a'u hwyresau sef Elan, Marged a Gwilym Rhys o'r band gwerin Plu, a Tomos a Siôn Owens oedd yn aelodau o'r Bandana ar y pryd gyda'u cefnder, Gwilym.
Ychwanegodd Zonia: "A'r un peth efo canu pobl ifanc, dwi'n gwybod enwau a hanes y gwahanol grwpiau sy'n bodoli heddiw ac yn eu dilyn nhw ar y radio a theledu - mae'n cadw fi gyda'r oes yma!"
'Dim label'
Cafodd ei chysylltu gyda'r Dyneiddwyr am iddi ysgrifennu llyfr i blant ysgol am y mudiad ac, unwaith eto oherwydd ei hangerdd i sicrhau bod y Gymraeg yn hawlio ei lle, cafodd ei hun yn ysgrifennydd Cyngor Dyneiddwyr Cymru.
Ond doedd hi ddim yn galw ei hun yn Ddyneiddiwr.
"Fel dwi'n dweud yn fy llyfr," meddai, "dwi ddim yn licio sticio labeli arnaf fi fy hunan ond dwi'n credu yn y rhan fwyaf o bethau mae Dyneiddwyr yn credu ynddyn nhw ac yn eu cefnogi nhw.
"Ond mae cymaint o eiriau fel Dyneiddwraig, neu rydd-feddyliwr neu anghredadyn ac anffyddiwr a phethe' felly. Wel, dwi'n fodlon eu derbyn, bod rhywun yn galw fi yn un o'r rheiny, ond dwi ddim yn sticio label arnaf fi fy hunan, fy mod yn credu beth mae pob un sy'n gwisgo'r label yn ei gredu."
Mae'n debyg mai rhydd-feddyliwr (freethinker) yw'r disgrifiad gorau ohoni meddai, os oes rhaid rhoi label.
Ond doedd ganddi ddim gwrthwynebiad i neb arddel unrhyw grefydd.
Roedd hi hyd yn oed yn mynd i'r capel pan oedd hi'n byw yn y Parc, er mwyn cymryd rhan yn y gymdeithas. A "chytuno i anghytuno" roedd hi gyda'i ffrind agos o'r pentref sy'n efengylwraig.
Ond yn bersonol, roedd y sefyllfa'n glir iddi hi ers ei dyddiau coleg pan gafodd sylweddoliad fod "pob duw a phob crefydd yn ffrwyth dychymyg dyn, a'r prif reswm roedd pobl yn credu ynddynt oedd dylanwad y gymdeithas o'u cwmpas."
Yn groes i'r graen
O ystyried ei bod wedi byw bywyd cyhoeddus, disgrifiai ei hun yn berson swil iawn, "rhy swil i agor fy ngheg, rhy swil i wneud dim" pan oedd hi'n ifanc.
Teimlodd ei bod wedi gorfod bod yn berson cyhoeddus, yn groes i'r graen, a bod dyletswydd arni i siarad: "Os ydych chi'n teimlo'n gryf dros rywbeth 'dych chi'n dueddol o siarad allan fwy nag os nad ydych chi ddim."
Doedd dim bwriad ganddi meddai i wneud llawer o'r pethau sydd wedi digwydd yn ei bywyd - sefydlu Merched y Wawr, dysgu Llydaweg, siarad dros Ddyneiddiaeth yng Nghymru - fe wnaethon nhw 'ddigwydd' am fod pobl wedi gofyn iddi.
Mae'r erthygl hon yn addasiad o fersiwn gyhoeddwyd gyntaf fis Chwefror 2015.