Apêl i gadarnhau oriau olaf dyn fu farw yn Llandaf
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau enw dyn 65 oed a fu farw "yn annisgwyl a heb esboniad" yng Nghaerdydd ddechrau'r wythnos.
Bu farw Stephen Bulpin, o ardal Y Tyllgoed yn y ddinas, ger Clwb Rygbi Llandaf.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i lwybr ar bwys y clwb tua 03:00 fore Llun, ac mae tâp ynysu yn parhau i atal mynediad i'r cyhoedd wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.
Mae archwiliad post mortem yn cael ei gynnal ac mae'r heddlu mewn cysylltiad â theulu Mr Bulpin.
Mae ditectifs yn ceisio cadarnhau symudiadau Mr Bulpin rhwng 16:00 ddydd Sul a 03:00 fore Llun, ac yn awyddus i glywed gan unrhyw un a'i welodd.
Fe gafodd ei weld yng Ngwesty'r Fairwater ar Heol Sain Ffagan am 16:00 ac yn dal bws tu allan i'r Holiday Inn yng nghanol Caerdydd am 21:00 cyn dychwelyd i'r dafarn am 21:25 lle y bu tan 23:25.
Fe ddychwelodd i'w gartref - yn Heol Poplar, Y Tyllgoed - am gyfnod byr rhwng 00:30 a 01:00, ac am 01:25 fe welodd rhywun ddyn tebyg iddo'n cerdded ar hyd Heol Pwllmelin, ger siop Premier, i gyfeiriad Llandaf.
Am 01:50 cafodd dyn o'r un disgrifiad ei weld yng nghyffordd Gerddi'r Gadeirlan cyn cerdded ar hyd Clos y Gadeirlan i gyfeiriad y llwybr lle cafodd ei ddarganfod.Dywed yr heddlu eu bod yn dal yn ceisio cadarnhau "achos ac amgylchiadau marwolaeth Mr Bulpin" a bod eu meddyliau gyda'i deulu a'i ffrindiau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth