Gêm ail gyfle Euro 2024: Cymru 4-1 Y Ffindir
- Cyhoeddwyd
Mae gobeithion Cymru o gyrraedd Euro 2024 dal yn fyw ar ôl curo'r Ffindir o 4-1 yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau.
Mewn gêm ddramatig, roedd 'na ddechrau delfrydol i Gymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ar ôl i David Brooks sgorio yn y munudau cyntaf.
Y Ffindir wnaeth reoli rhannau o'r hanner cyntaf ac er i Neco Williams sgorio ail gôl i Gymru, fe wnaeth yr ymwelwyr daro'n ôl yn y munudau cyn yr egwyl.
Roedd 'na hwb arall i Gymru ar ddechrau'r ail hanner wrth i Brennan Johnson sgorio, gan ddod â'r sgôr i 3-1, cyn i Dan James redeg at y gôl ar ei ben ei hun a sgorio'r bedwaredd gôl.
Hanner cyntaf llawn cyffro
Ar ôl i David Brooks sgorio i Gymru yn y munudau cyntaf, bu bron i'r Ffindir daro'n ôl o fewn y 10 munud cyntaf wrth i Daniel Hakans gicio'r bêl dros y bar.
Roedd 'na gyfle i Brennan Johnson wrth iddo redeg am y gôl, ond roedd o'n camsefyll.
Daeth cerdyn melyn cyntaf y gêm i'r Ffindir, wrth i Robin Lod daclo Neco Williams.
Er bod Cymru wedi sgorio'r gôl gyntaf, doedden nhw ddim yn rheoli'r gêm a daeth sawl cyfle i'r Ffindir sgorio. Fe anelodd Joel Pohjanpalo at y gôl ond mi gafodd y bêl ei rhwystro gan Gymru.
Roedd 'na gyfle gwych i Gymru sgorio wrth i Harry Wilson anelu am y gôl o bellter, ond mi gafodd y bêl ei harbed gan Lukas Hradecky.
Gyda 10 munud yn weddill o'r hanner cyntaf, rhoddwyd gic rydd i Gymru gyda Neco Williams yn sgorio ail gôl Cymru ar ôl cyffyrddiad bychan gan Harry Wilson.
Roedd ergyd i Gymru ym munudau ola'r hanner cyntaf, wrth i flaenwr Y Ffindir, Teemu Pukki, sgorio gôl gynta'r ymwelwyr.
Dwy gôl arall i Gymru
Fe wnaeth y tîm cartref daro'n ôl ym munudau cynta'r ail hanner wrth i Brennan Johnson sgorio, gan ddod â'r sgôr i 3-1.
Roedd 'na gymeradwyaeth gan y dorf wrth i David Brooks adael y cae a chael ei eilyddio gan Kieffer Moore.
Ag yntau'n dathlu ei ben-blwydd yfory, bu bron i Harry Wilson gael anrheg pen-blwydd cynnar wrth iddo anelu am y gôl ond aeth y bêl heibio'r postyn.
Er bod Y Ffindir wedi cael cyfle gyda chiciau cornel, Cymru reolodd y rhan fwyaf o'r ail hanner.
Roedd cyfle i Moore, ond fe giciodd yn syth at Lukas Hradecky.
Mae Rob Page yn penderfynu eilyddio - Brennan Johnson yn dod oddi ar y cae a Dan James yn cymryd ei le.
Roedd hi'n ymddangos bod y capten Ben Davies wedi sgorio gôl i Gymru ond chafodd y gôl mo'i chaniatáu.
Ar ôl camgymeriad amddiffynnol gan y Ffindir, roedd hynny'n gyfle perffaith i Dan James redeg at y gôl ar ei ben ei hun gan sgorio'r bedwaredd i Gymru.
Roedd cyfle i'r Ffindir ym munudau ola'r amser ychwanegol, ond aeth y bêl heibio'r postyn.
Beth nesaf?
Yn y gêm ail gyfle arall fe gurodd Gwlad Pwyl Estonia o 5-1.
Mae hynny'n golygu bydd tîm Rob Page yn chwarae yn erbyn Gwlad Pwyl yng Nghaerdydd nos Fawrth am le ym mhencampwriaeth ryngwladol fwyaf Ewrop.