Disgyblion ysgol mewn gwrthdrawiad bws yn Yr Almaen
- Cyhoeddwyd
Mae disgyblion o Ysgol Llanhari yn ddiogel wedi i fws yr oedden nhw'n teithio arno fod mewn gwrthdrawiad yn Yr Almaen.
Roedd y disgyblion o'r ysgol ym Mhont-y-clun, Rhondda Cynon Taf, ar daith sgïo i Awstria pan fu'r bws mewn gwrthdrawiad gyda lori fore Mawrth.
Mewn neges ar Instagram, dywedodd yr ysgol fod y disgyblion i gyd yn iach, gan ddiolch i'r gwasanaethau brys yn Yr Almaen.
Fe ddywedodd cwmni teithio Davey Travel Ltd fod pob un o'r teithwyr ar y bws wedi cael sylw meddygon a bod neb wedi cael anaf.
Dywedon nhw fod y gwrthdrawiad wedi digwydd ar ffordd y B10 ger tref Landau yn ne'r Almaen.
"Mae pawb yn cael gofal da gan wasanaethau lleol," medd y cwmni.
"Maen nhw'n disgwyl cludiant i fynd â nhw ymlaen i ben eu taith yn Awstria fel y gallan nhw barhau gyda'u gwyliau sgïo."
Ychwanegodd y cwmni eu bod mewn cysylltiad gyda rheini'r disgyblion, gan ategu'r diolch i wasanaethau brys yn Yr Almaen am eu cymorth.
Mewn llythyr at rieni'r ysgol, dywedodd y pennaeth, Meinir Thomas ei bod wedi "bod mewn cyswllt cyson â'r staff ers y digwyddiad" gan ychwanegu bod y "disgyblion mewn hwyliau da ac yn edrych mlaen at gwblhau eu siwrne i Awstria."
'Cymorth gwych'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Gall y cyngor gadarnhau fod holl ddisgyblion a staff Ysgol Llanhari yn ddiogel yn dilyn gwrthdrawiad ffordd yn ne'r Almaen ac na chafodd neb anaf.
"Cafodd y grŵp, a oedd ar eu ffordd i sgïo yn Awstria, eu cefnogi mewn neuadd leol tra bod trefniadau teithio amgen yn cael eu gwneud. Mae'r cwmni bysiau wedi trefnu i ddau fws arall eu codi fel y gallan nhw barhau gyda'u taith a'u gwyliau sgïo.
"Mae pennaeth Ysgol Llanhari mewn cyswllt cyson gydag aelodau staff sydd gyda'r disgyblion ar y daith, ac wedi diweddaru rheini a gofalwyr yn gyson yn ystod y dydd.
"Mae staff wedi adrodd fod y gwasanaethau brys lleol wedi bod o gymorth gwych, ac fe hoffai'r ysgol a'r cyngor ddiolch o galon iddyn nhw am bopeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2023