Dirwyon gan fod ffilm yn hirach na therfyn amser parcio
- Cyhoeddwyd
Mae ffilmiau sy'n para'n hir wedi arwain at ddirwyon parcio i bobl sy'n ymweld â'r sinema yng Nghyffordd Llandudno.
Yn ddiweddar mae terfyn amser o dair awr wedi ei gyflwyno ym maes parcio Cineworld.
Ond ers i'r drefn newid mae pobl a aeth i wylio'r ffilm ffuglen wyddonol Dune: Part Two, sy'n dros ddwy awr a thri chwarter o hyd, wedi parcio yn ddiarwybod am fwy o amser na'r terfyn newydd.
Dywedodd Cineworld nad nhw sy'n gweithredu'r maes parcio, ond bod yna system yn y sinema lle mae pobl yn medru cofrestru eu car er mwyn osgoi dirwy.
Ond dywed nifer o yrwyr farn nad oedden nhw'n gwybod bod angen cofrestru rhif car cyn gwylio'r ffilm.
'Doedd gen i ddim syniad'
Dywedodd Gwynne Reddick ar Facebook: "Felly, sut rydym yn apelio am ddirwy parcio?
"Doedd gen i ddim syniad o gwbl am hyn nes i'r dirwy parcio gyrraedd bore ma?
"Pam na chawsom rybudd gan y staff pan wnaethon nhw sganio ein tocynnau ar gyferDune 2?"
Fe fynegodd Caron Ethan Boyle rwystredigaeth hefyd ar Facebook: "Fe es i wylio Dune 2 yr wythnos diwethaf a dwi newydd dderbyn dirwy drwy'r post heddiw.
"Dwi wedi bod yn dod yma ers blynyddoedd felly ro'n i heb feddwl gwirio'r canllawiau parcio a ges i ddim fy hysbysu gan neb wrth y til."
Fe ddaeth y newidiadau parcio i rym ddechrau mis Mawrth.
'Allan o'n dwylo'
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Cineworld: "Fel y mae rhai ohonoch yn ymwybodol, mae gennym gyfyngiadau parcio newydd yn y maes parcio.
"Mae'r penderfyniad yma allan o'n dwylo. Cwmni allanol sy'n berchen ar y maes parcio.
"Rydym yn sylweddoli bod y cyfyngiadau yn nodi mai'r uchafswm amser ar gyfer parcio car yma yw tair awr.
"Er hynny, plis peidiwch â phoeni! Mae gennym ni dabledi digidol y tu mewn i'r sinema lle y gallwch nodi manylion eich car. Bydd hwn yn golygu y cewch chi fwy o amser yn y maes parcio am ddim."
Mae'r maes parcio yn cael ei reoli gan gwmni o'r enw UK Parking Control Ltd, ac mae'r BBC wedi cysylltu â nhw am ymateb.