Plismon yn gwadu cyhuddiadau'n cynnwys dwyn £16,000

  • Cyhoeddwyd
Ben Cooke
Disgrifiad o’r llun,

Cuddiodd Sarjant Ben Cooke ei wyneb wrth gael ei hebrwng i'r llys fore Mercher

Mae swyddog gyda Heddlu De Cymru wedi gwadu dwyn sêff oedd yn cynnwys £16,000 mewn arian parod.

Mae'r Sarjant Ben Cooke, 34 o Hirwaun, Rhondda Cynon Taf, wedi'i gyhuddo o dorri mewn i dŷ ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 7 Chwefror eleni, gan ddwyn y sêff ac eitemau personol eraill.

Mae wedi'i gyhuddo hefyd o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus drwy wneud chwiliadau heb eu hawdurdodi ar systemau'r heddlu rhwng 3 a 9 Chwefror, gan gamddefnyddio'i swydd fel heddwas er mwyn gwneud enillion personol.

Mae'r Sarjant Cooke hefyd wedi'i gyhuddo o gael mynediad i ddata ar gyfrifiadur yn groes i'r Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990.

Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher fe wadodd y tri chyhuddiad yn ei erbyn.

Fe gadarnhaodd ei gyfeiriad ac atebodd "dieuog" wrth i'r cyhuddiadau gael eu hadrodd iddo.

Dechreuodd fynd yn ddagreuol yn ystod y gwrandawiad 10 munud.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa gan y Barnwr Tracey Loyd-Clarke, ac fe fydd yr achos yn ei erbyn yn dechrau ar 12 Awst.