Virginia Crosbie 'heb dorri cod ymddygiad ASau' - ymchwiliad
- Cyhoeddwyd
Ni fydd camau pellach yn erbyn AS Ynys Môn Virginia Crosbie yn dilyn ymchwiliad gan Gomisiynydd Safonau Tŷ'r Cyffredin.
Roedd yr Aelod Seneddol Ceidwadol yn wynebu cyhuddiadau o dorri cyfyngiadau Covid mewn digwyddiad yn San Steffan ym mis Rhagfyr 2020.
Dywedodd y Comisiynydd, Daniel Greenberg, bod yr honiadau yn erbyn Ms Crosbie a thri AS arall "heb eu cadarnhau" a bod honiadau yn y cyfryngau ynghylch y digwyddiad heb eu "profi".
Fe ddaeth i'r casgliad nad oedd tystiolaeth i gyfiawnhau dyfarniad eu bod wedi torri Cod Ymddygiad Aelodau Seneddol.
Fe gyhoeddodd Heddlu'r Met ym mis Rhagfyr na fyddai unrhyw un yn cael eu cosbi mewn cysylltiad â'r digwyddiad a gafodd ei drefnu gan Ddirprwy Lefarydd Tŷ'r Cyffredin, Y Fonesig Eleanor Laing i ddathlu penblwyddi Ms Crosbie ac un o aelodau Tŷ'r Arglwyddi, y Farwnes Jenkin.
Cadarnhaodd Ms Crosbie y llynedd ei bod wedi mynychu'r digwyddiad, gan ymddiheuro'n "ddiamod", ond dywedodd nad oedd hi wedi anfon unrhyw wahoddiad.
Dywedodd hefyd mai am gyfnod byr roedd hi yno ac na wnaeth hi yfed na dathlu ei phen-blwydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2023