Eira wedi disgyn dros rannau o Gymru dros nos
- Cyhoeddwyd
Mae eira wedi disgyn dros rannau o Gymru dros nos.
Yn hwyr nos Fercher, cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd rybudd am eira ar gyfer y mwyafrif o'r wlad rhwng 01:00 a 07:00 fore Iau.
Y disgwyl oedd y gallai tipyn o eira ddisgyn ar dir dros 150m o uchder, ac y gallai daro mannau is na hynny mewn rhai ardaloedd.
Mae'r swyddfa yn rhybuddio y gallai'r amodau gael effaith ar deithio ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd fore Iau.
Mae lluoedd heddlu wedi rhybuddio pobl hefyd i fod yn ofalus, yn enwedig yn ardaloedd Dolgellau a Llangurig, ac i osgoi teithio ble fo hynny'n bosib.
Dyma rai o'r golygfeydd ledled Cymru.
Rhannwch eich lluniau gyda ni ar cymrufyw@bbc.co.uk