Cannoedd o sêr môr ar draeth yn y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae cannoedd o sêr môr wedi cyrraedd traeth yn Sir Ddinbych.
Roedd Stuart Wimbles yn cerdded ar draeth Prestatyn pan welodd llwythi o greaduriaid wedi eu golchi ar y traeth ddydd Sul.
Ar Facebook, fe nododd: "Trist i weld cymaint o sêr mor wedi eu golchi i'r lan heddiw."
Nid dim ond ym Mhrestatyn oedd y Sêr, fe welodd Anetta Davey cannoedd yn fwy o'r sêr môr wedi eu gwasgaru ochr yn ochr â chregyn bylchog (razor clams) ar draeth Y Rhyl.
Dywedodd Ms Davey, 57 o Fae Cinmel, fod rhai "mor fawr â phlât o fwyd".
"Roedd yr adar wrth eu bodd yna," meddai.
Dywedodd Stuart Wimbles: "Roeddwn i a'm gwraig yn cerdded ar y traeth gyda'n tri o'n hwyrion.
"Tra bod y llanw allan, fe wnaethom ni benderfynu cerdded i flaen y grwynau. 'Nath fy ngwraig Michelle sylwi ar seren fôr ar y tywod, pan nes i edrych i lawr, weles i lwyth ohonyn nhw.
"I ddechrau ro' ni'n meddwl eu bod nhw wedi marw ond yna 'natho ni sylwi ar rhai yn symud."
Dywedodd Gem Simmons, biolegydd morol o Brestatyn fod yr anifeiliaid yn cyrraedd y lan yn dilyn stormydd cryf, a bod y rheiny yn dod yn fwy amlwg y dyddiau yma o ganlyniad i effeithiau cynhesu byd eang.
"Yn sicr mae'n beth trist, ond ar y funud, nid yw hynny am wneud i'r creaduriaid yma ddiflannu'n llwyr," meddai Ms Simmons.
Dywedodd bod sêr mor yn dueddol o fod yn sownd ar y lan pan eu bod yn plygu eu coesau am i mewn - sef 'starballing' - yn ystod stormydd. Mae'r creaduriaid yn newid eu siâp ac yn arnofio gyda llif y dŵr.
Dywedodd Ms Simmons fod y sêr môr yn gwneud hyn er mwyn "cyrraedd mannau bwydo gwell neu symud er mwyn bridio".
Aeth ymlaen i esbonio eu bod yn "chwyddo eu hunain ac yn cyrlio eu coesau am i mewn".
O ganlyniad i hyn, mae posibilrwydd mawr y bydd y sêr môr yn cyrraedd y lan yn ystod stormydd.