Rhybudd melyn am law trwm yn y de ddwyrain nos Sul
- Cyhoeddwyd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gallai glaw sylweddol effeithio ar rannau o'r de ddwyrain.
Bydd rhybudd melyn am law yn dod i rym am 20:00 nos Sul, a bydd yn weithredol hyd at 23:45.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r glaw trwm arwain at lifogydd a thrafferthion i deithwyr.
Mae disgwyl i tua 20-30mm o law ddisgyn mewn cyfnod byr, gyda rhywfaint o daranau hefyd yn bosib ar brydiau.
Y siroedd sy'n debygol o gael eu heffeithio yw Caerffili, Caerdydd, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg.