A40 rhwng Caerfyrddin a Sanclêr yn ailagor wedi saith awr ar gau

  • Cyhoeddwyd
Traffig yn ciwio
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y ffordd ar gau tan ddechrau prynhawn Llun

Mae rhan allweddol o un o brif ffyrdd y gorllewin wedi ailagor brynhawn Llun wedi i'r heddlu orfod ei chau mewn ymateb i wrthdrawiad yn yr oriau mân.

Roedd yr A40 ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng Caerfyrddin a Sanclêr am saith awr yn dilyn gwrthdrawiad ar lôn ddwyreiniol y ffordd tua 04:45.

Nes i'r ffordd ailagor roedd yna apêl i yrwyr osgoi'r ardal gan fod y ffordd "yn debygol o aros ar gau tan nes ymlaen y prynhawn".

Roedd Heddlu Dyfed-Powys yn rhybuddio eu bod "yn disgwyl traffig trwm oherwydd Gŵyl Banc y Pasg".

Disgrifiad o’r llun,

Roedd disgwyl traffig trwm yn yr ardal beth bynnag ar ddiwrnod olaf penwythnos y Pasg

Ychwanegodd llefarydd y llu bod "mynediad i'r cae sioe yn bosib o Gaerfyrddin a bod swyddogion wrth gylchdro B & Q" yn rhoi cyfarwyddiadau i yrwyr.

Mae Annalyn Davies yn gallu gweld yr A40 o'i chartref ym mhentref Bancyfelin.

"O'dd hi'n anhygoel i weld y ffordd ddeuol mor wag - dim un cerbyd o gwbwl am orie mawr," dywedodd wrth raglen Post Prynhawn.

"A hithau'n ŵyl y banc, mae'r heol ddeuol yn arfer bod yn orlawn - ciws yn mynd i mewn i Gaerfyrddin."

Er na fu trafferthion ym Mancyfelin ei hun, dywedodd bod yna "effaith ofnadw" ar ffyrdd gefn yr ardal wrth i bobl fynd adref o'u gwyliau - "cymaint fel bod hi'n gridlock yma".

Roedd rhai cerbydau, meddai, wedi cael trafferth bacio'n ôl ac aeth "lori yn sownd yn y ffos felly doedd dim un ffordd i'r traffig fynd ymhellach - daeth y cwbl i stop".

I ychwanegu at drafferthion unrhyw un oedd wedi bwriadu teithio o'r gorllewin ar ddiwedd penwythnos y Pasg mae trafferthion trydan a signalau wedi amharu'n ddifrifol ar deithiau trên ar hyd Prif Linell De Cymru.

Fe ofynnodd Trafnidiaeth Cymru i bobl osgoi teithio tan o leiaf 13:00 ddydd Llun, ac i ohirio'u cynlluniau tan ddydd Mawrth "os yn bosib".