Sara Davies ar y brig i Gymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd
- Cyhoeddwyd
Mae enillydd cystadleuaeth Cân i Gymru eleni wedi dod i'r brig unwaith eto wrth gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd.
Sara Davies enillodd y gystadleuaeth am y gân ryngwladol orau gyda'r gân Ti yn nhref Carlow, yn ne-ddwyrain Iwerddon, nos Iau.
Fe ddenodd y gân 52 o bwyntiau yn y bleidlais, gan drechu Iwerddon o bedwar pwynt.
Ynys Manaw oedd yn drydydd, ac roedd Yr Alban, Llydaw a Chernyw hefyd yn cystadlu.
Yn ogystal â thlws mae hi'n derbyn gwobr ariannol o €1,500.
'Bach o sioc'
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Gwener dywedodd bod ennill yn "bach o sioc" iddi.
"O'n i ddim yn deall beth oedd y broses i fod yn onest," dywedodd.
"O'dd 'na gymaint o rifau ar y diwedd wrth i bob beirniad roi marciau allan o 12 ac ro'n i yn y cefn yn gwrando ar speaker ac yn edrych ar live stream ar yr un pryd.
"O'n i ddim yn meddwl bo fi'n mynd i ennill - o'dd e ddim yn mynd ffordd fi tan y diwedd."
Ychwanegodd bod y profiad yn eitha' gwahanol i berfformio yn Abertawe yn ystod Cân i Gymru.
"Do'dd e ddim mor glitzy a doedd gen i ddim band ond fe 'nath dau ddyn oedd yn gweithio yno chwarae i fi - o'dd hynna yn neis."
Cân serch gan daid Sara i'w nain yw Ti. Mi ysgrifennodd ei thaid geiriau'r gân cyn iddo farw, ac ar ôl ei golli, mi aeth Sara ati i gyfansoddi'r gerddoriaeth.
Doedd ei nain ddim wedi teithio i Iwerddon "gan nad yw'n keen i deithio ar gwch", medd Sara, "ond roedd hi wedi gwylio ar Facebook live ac mae'n edrych ymlaen i weld fideo gwell o'r noson".
Yn wreiddiol o Hen Golwyn, mae Sara bellach yn byw yn Llandysul ac yn athrawes cerddoriaeth, drama a lles yn Ysgol Uwchradd Tregaron.
Mae cystadleuwyr eraill o Gymru hefyd wedi cael llwyddiant yn yr ŵyl.
Enillodd y grŵp Lo-Fi wobrau am gân newydd ei chyfansoddi, ac yn y gystadleuaeth canu traddodiadol ar gyfer grwpiau, gyda'r Brodyr Magee yn ail.
Ac roedd Carys Griffiths-Jones yn gyntaf, gyda Branwen Medi Jones yn drydydd, yn y gystadleuaeth canu traddodiadol unigol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth
- Cyhoeddwyd5 Mawrth
- Cyhoeddwyd4 Mawrth