Caerdydd: Arestio tair menyw ar amheuaeth o lofruddiaeth

  • Cyhoeddwyd
Heol-Y-Berllan
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Heol-y-Berllan a Heol Trelái, Caerau, nos Sul

Mae tair menyw wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio dyn 48 oed yng Nghaerdydd nos Sul.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad yn ardal Heol-y-Berllan a Heol Trelái, Caerau, toc wedi 23:30.

Mae tair menyw wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth - menyw 28 oed o Elai, menyw 43 oed o Gaerau a menyw 43 oed o Sir Gaerwrangon - ac maen nhw'n parhau yn y ddalfa.

Mae teulu'r dyn fu farw, oedd yn dod o ardal Grangetown yn y ddinas, wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig