Cyhoeddi enw dyn 48 oed fu farw yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Colin RichardsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Colin Richards yn 48 oed ac yn dod o ardal Grangetown

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw dyn a fu farw yn dilyn digwyddiad yng Nghaerdydd nos Sul.

Roedd Colin Richards yn 48 oed ac yn dod o ardal Grangetown y brifddinas.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad yn ardal Heol-y-Berllan a Heol Trelái, Caerau, toc wedi 23:30 nos Sul.

Mae tair menyw, dwy 43 oed ac un 28 oed, a gafodd eu harestio ar amheuaeth o lofruddio, bellach wedi cael eu rhyddhau dan ymchwiliad.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei deulu fod Mr Richards yn "dad, taid, brawd, ewythr a chefnder cariadus, ac yn ddyn teulu".

"Bydd yn ein meddyliau a'n calonnau am byth".

Mae'n gadael saith plentyn.

Mae'r heddlu yn dal i apelio am wybodaeth.

Pynciau cysylltiedig