Cwmni technoleg Llandysul eisiau 'cadw pobl ifanc yn lleol'
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni technoleg a marchnata byd eang yn agor eu pencadlys yng Ngheredigion, gyda'r bwriad o greu 50 o swyddi dros y ddwy flynedd nesaf.
Mae cwmni Delineate yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf, gan gynnwys technoleg AI, ac wedi dewis Llandysul fel lleoliad i gryfhau'r sector dechnoleg yng Nghymru.
Mae gan y cwmni gwsmeriaid sy'n cynnwys brandiau bwyd mwya'r byd.
Gyda 25 o bobl eisioes yn gweithio ar y safle, y gobaith yw "cadw sgiliau a pobl ifanc yn lleol".
Un sy'n gweithio i'r cwmni ydi Steffan Evans, sydd wedi dod yn ôl i'r ardal ar ôl bod yn y brifysgol.
Ag yntau wedi cael swydd fel cyfarwyddwr cynhyrchu y cwmni yn Llandysul, mae'n dweud ei fod yn "wych cael y cyfle i ddod nôl i ble tyfes i lan".
Dywedodd ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru: "Fi wedi bod yn ffodus i cael swydd cyffrous yn yr ardal. Os bydden i ddim wedi cael y siawns i aros yn yr ardal, falle bydden i ddim yn yr ardal nawr.
"Ma' di bod yn galed i gael pobl i drial am swyddi achos ma' pobl falle dim yn nabod Delineate fel brand ond ers noddi y clwb lleol, rhoi arian i ysgolion i fynd ar trips tramor, mae'r enw mas yna nawr.
"Ni'n trial rhoi stamp yn yr ardal bo ni 'ma i aros a buddsoddi yn yr ardal. Ma'r awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru yn helpu busnesau fel ni, sy'n annog pobl ifanc i aros yn yr ardal."
'Swyddi sy'n llai traddodiadol'
Simon Davies ydi pennaeth prosiectau Delineate yn Llandysul.
Mae'n dweud "bod diddordeb yn yr ardal yn beth ni'n trial 'neud a bo ni'n trial newid meddylfryd ychydig a dod a swyddi newydd i'r ardal sy'n llai traddodiadol na be ma' pobl yn meddwl am yn Gorllewin Cymru".
"Beth i ni 'di ffindio fel busnes yw bod ni'n defnyddio technoleg i automatio beth ni'n gallu neud, a ma' hwnna'n meddwl bod y sgiliau ni'n dod mewn i'r ardal yn denu pobl sy'n gallu delio efo data.
"Ma' Delineate yn gystadleuol gyda cwmniau sydd llawer mwy o seis na ni ac wrth i ni ddefnyddio technoleg fel AI ma hwnna'n mynd i helpu ni i tyfu fel cwmni yn yr ardal."
'Cadw sgiliau a pobl ifanc yn lleol'
Mae'r cwmni wedi defnyddio cronfeydd ariannol sydd ar gael gan Gyngor Sir Ceredigion yn ogystal â chronfeydd eraill fel 'Cynnal y Cardi' ac 'Arfor' sy'n helpu busnesau i ddefnyddio'r iaith Gymraeg.
Eglura'r cynghorydd Clive Davies, sy'n aelod cabinet ar gyfer yr economi ac adfywio Cyngor Sir Ceredigion, bod "dwy brifysgol gyda ni yng Ngheredigion... Delineate yw'r ail gwmni yn y misoedd dwetha' fi'n gwbod amdanyn nhw sydd wedi dod yma".
"Ma' fe'n rhan o strategaeth economi sydd gyda ni yng Ngheredigion i ddenu a cadw ein sgiliau lleol yma.
"Beth mae Delineate yn gwneud gyda AI a marchnata, mae'n gystadleuol iawn a rhyngwladol a mae'n beth da iawn i Landysul a Ceredigion i cadw'r sgiliau a pobl ifanc yn lleol."
'Cymru gyntaf'
Mae Steffan Evans yn dweud bod Delineate yn rhoi pwyslais ar gyflogi a datblygu sgiliau pobl yr ardal.
Dywedodd: "Maen nhw eisiau defnyddio cyflenwyr lleol a cyflogi pobl lleol pan mae'n bosib a mentora a creu sgiliau gyda pobl lleol.
"Mae 50 o swyddi ar hyn o bryd a pwy a ŵyr faint bydd yn y dyfodol."
Dywedodd llefarydd ar ran Delineate: "Rydyn ni'n blaenoriaethau 'Cymru'n Gyntaf'.
"Fel cwmni ymchwil a thechnoleg rhyngwladol rydyn ni'n falch o agor ein swyddfeydd newydd yn Llandysul, fydd yn rhan ganolog o deulu Delineate, sydd â swyddfeydd yn Llundain a Mecsico yn barod.
"Rydyn ni wedi penderfynu agor ein pencadlys yng ngorllewin Cymru, er mwyn cryfhau'r sector technoleg yng Nghymru a chynnig cyfleoedd i bobl leol."