Rhybudd am wyntoedd cryfion i Gymru gyfan ddydd Llun

  • Cyhoeddwyd
RhybuddFfynhonnell y llun, Getty Images/Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybudd mewn grym rhwng 06:25 a 22:00 ddydd Llun

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion ar draws Cymru ddydd Llun.

Mae'r rhybudd mewn grym rhwng 06:25 a 22:00.

Mae disgwyl y gall gwyntoedd hyrddio hyd at 45mya, gan gyrraedd 55mya mewn mannau arfordirol, medd y Swyddfa Dywydd.

Mae 'na rybudd y gall y gwyntoedd cryfion gael effaith ar amodau gyrru, yn ogystal â tharo cyflenwadau trydan a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Pynciau cysylltiedig