Ed Miliband yn ymddiswyddo
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Llafur Ed Miliband wedi ymddiswyddo wedi perfformiad siomedig ei blaid dros nos.
Dywedodd fod Prydain angen Plaid Lafur gref, a'i bod yn bryd i rywun arall fynd â'r blaid ymlaen i'r dyfodol.
Harriet Harman fydd yn cymryd yr awenau dros dro.
Dywedodd Mr Milband ei fod yn cymryd "cyfrifoldeb llwyr" am golledion Llafur, a'i fod yn ddrwg iawn ganddo fod cydweithwyr wedi colli eu seddau dros nos, gan gynnwys cyn lefarydd y blaid ar y Trysorlys, Ed Balls.
Adfer nerth
Ychwanegodd ei fod yn edrych ymlaen at dreulio mwy o amser gyda'i wraig Justine a'u dau fab.
Addawodd y byddai Llafur yn adfer eu nerth, gan ddweud "mae'r frwydr yn parhau".
Yn gynharach fore Gwener dywedodd Mr Miliband: "Mae hon wedi bod yn noson siomedig ac anodd iawn i'r Blaid Lafur.
"Nid ydym wedi gwneud y cynnydd yr oedden ni'n anelu ato yng Nghymru a Lloegr, ac yn yr Alban rydym wedi gweld ton o genedlaetholdeb yn llethu ein plaid."