Dem Rhydd: '£560m yn fwy i Gymru bob blwyddyn'

  • Cyhoeddwyd
DosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn honni y bydd Cymru'n elwa o £560m yn ychwanegol bob blwyddyn yn sgil eu haddewidion etholiadol ar addysg.

Yn eu maniffesto, mae'r blaid yn datgelu hwb o £10bn i ysgolion yn Lloegr, ac yn anelu i gyflogi 20,000 yn rhagor o athrawon.

Mae addysg wedi'i ddatganoli, felly mae rhagor o wariant yn Lloegr yn golygu mwy o arian i Lywodraeth Cymru ei wario fel maen nhw'n ei weld orau.

Gan addo atal Brexit os ydyn nhw'n ennill yr etholiad, mae'r blaid hefyd am roi mwy o rym i'r Cynulliad gan ddatganoli pwerau dros garchardai a'r heddlu.

Mae'r maniffesto'n datgan: "Byddai ethol y Democratiaid Rhyddfrydol gyda llywodraeth fwyafrifol ar blatfform i stopio Brexit yn darparu mandad democratiaid i atal y llanast yma, diddymu Erthygl 50 ac aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

"Rydyn ni'n brwydro yn ddiedifar i aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd a ni yw'r blaid sydd gryfa' o blaid Aros."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Jane Dodds y byddai'n annog Bae Caerdydd i wario arian yn sgil canslo Brexit mewn ffordd sy'n "rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd" i blant

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds y byddai'n annog Bae Caerdydd i wario'r arian ar ysgolion, er mwyn "rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd" i blant.

Mae ei chyd-aelod yn y blaid, Kirsty Williams, yn weinidog addysg dan Lywodraeth Lafur Cymru.

"Byddai'n cynlluniau uchelgeisiol i wyrdroi'r toriadau addysg yn Lloegr yn rhoi £560m yn fwy i Lywodraeth Cymru wario ar ysgolion ac athrawon, er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i adeiladu system addysg sy'n addas i'r 21ain Ganrif," meddai Jane Dodds.

"Bydd y cyllid hwn yn ein galluogi i adeiladu ar waith gwych Kirsty Williams i greu system addysg sy'n cefnogi a meithrin pob plentyn i gyrraedd eu llawn potensial."

Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, byddai'r arian yn dod o'r hyn maen nhw'n honni a fyddai'n hwb o £50bn i'r pwrs cyhoeddus trwy ganslo Brexit.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cynlluniau'r blaid yn cyfeirio at sicrhau "dau blismon newydd i bob ward"

Mae'r maniffesto hefyd yn addo "cyfansoddiad ffederal, ysgrifenedig" a fyddai'n gwneud Cynulliad Cymru a Senedd yr Alban yn sefydliadau parhaol.

Ar hyn o bryd, fe all y Cynulliad gael ei ddiddymu drwy ddeddf Seneddol yn San Steffan.

Byddan nhw hefyd yn datganoli pwerau dros gyfiawnder troseddol i Aelodau Cynulliad, gan roi rheolaeth dros y gwasanaeth prawf, yr heddlu a charchardai a threthi awyr iddyn nhw.

Addewid arall ydy buddsoddi £1bn ar draws Lloegr a Chymru i adfer plismona yn y gymuned - "digon ar gyfer dau blismon newydd i bob ward".

'Lefel cyfiawn'

O dan eu cynlluniau, byddai comisiynwyr heddlu'n cael eu diddymu, gyda byrddau lleol yn cael eu cyflwyno yn eu lle.

Maen nhw hefyd yn addo codiad cyflog o 2% i blismyn.

O ran cyllid, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud eu bod yn cydnabod bod Cymru'n cael ei thangyllido.

Eu nod "dros gyfnod y Senedd ydy cynyddu'r grant Cymreig i lefel cyfiawn".

Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau datganoledig Cymru yn dod gan grant o Lywodraeth y Deyrnas Unedig.