Polisïau etholiad Plaid Brexit yn 'newyddion gwych' i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau Plaid Brexit yng Nghymru wedi croesawu polisïau etholiad cyffredinol y blaid sy'n gobeithio rhoi hwb i ardaloedd tu allan i Lundain.
Dywedodd arweinydd y blaid, Nigel Farage y gallai £200bn gael ei arbed drwy adael yr Undeb Ewropeaidd, dileu cynllun rheilffordd HS2 a thorri cymorth tramor.
Galwodd ar £50bn i gael ei wario ar gynlluniau ffordd a rheilffyrdd lleol, a £2.5bn i ardaloedd arfordirol "sydd wedi'u gadael ar ôl".
Dywedodd Nathan Gill, ASE Plaid Brexit dros Gymru, y byddai'r blaid yn addo "newid gwleidyddol radical, real".
Mae'r blaid yn sefyll yn 32 o'r 40 o seddi yng Nghymru, a 275 ar draws y DU ar ôl dewis i beidio â sefyll mewn mannau enillodd y Ceidwadwyr yn 2017.
Mewn ymgais i gipio seddi sy'n draddodiadol o blaid Llafur, dywedodd Mr Farage y byddai ei blaid yn llais "i'r bobl bach".
Cyfeiriodd at ei ddogfen bolisi fel "cytundeb gyda'r bobl", gan ddweud bod maniffestos traddodiadol wedi'u dyddio ac yn gysylltiedig â "chelwydd" a thor-addewidion.
Dywedodd Mr Farage y byddan nhw'n rhoi cap parhaol o 50,000 y flwyddyn ar fewnfudwyr, yn cael gwared ar Dŷ'r Arglwyddi, ac yn caniatáu dinasyddion i alw refferenda.
'Newyddion gwych'
Croesawodd Mr Gill ymrwymiad ei blaid i barhau i dalu'r cymorthdaliadau a'r grantiau y mae ffermwyr, pysgodfeydd, prifysgolion a grwpiau eraill yn eu derbyn gan yr UE ar hyn o bryd.
"Mae hyn yn newyddion gwych i lawer o bobl ledled Cymru, ac yn arbennig i ffermwyr sydd angen y cronfeydd hyn fwyaf," meddai.
"Amaethyddiaeth yw un o rannau pwysicaf economi Cymru, gan ddarparu bwyd i bobl ledled Cymru, y DU a'r byd.
"Mae'r newyddion heddiw yn golygu na fydd yn rhaid i ffermwyr a gweithwyr amaethyddol eraill ledled Cymru boeni a fyddai tarfu ar gymorthdaliadau pan fyddwn yn gadael yr UE, gan sicrhau nad yw busnesau a swyddi yn cael eu heffeithio."