Llywydd NFU Cymru yn 'amau addewid Johnson ar Brexit'
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd un o undebau amaethyddol Cymru wedi dweud fod yna le i amau addewid Prif Weinidog y DU ar ei gytundeb Brexit.
Wrth ymweld â Bangor Is-y-coed ger Wrecsam ddydd Llun, dywedodd Boris Johnson y byddai'n sicrhau na fydd yna gwotâu na thollau yn cael eu gosod ar allforion amaethyddol i'r Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd mai'r peth gwych am ei gytundeb yw y "bydd lefel tollau yn sero - ac felly hefyd cwotâu".
Ond yn ôl John Davies, llywydd NFU Cymru, mae angen cwblhau trafodaethau masnach gyda'r UE cyn bod unrhyw sicrwydd am fynediad i farchnadoedd 27 gwlad yr UE.
Yn y cytundeb gwleidyddol gafodd ei lunio gyda'r UE, mae'r datganiad yn dweud: "Fe ddylai partneriaeth economaidd drwy Gytundeb Masnach Rydd sicrhau nad oes tollau, ffioedd na chyfyngiadau ar unrhyw sector."
Ond dyw'r cytundeb gwleidyddol ddim yn ddogfen gyfreithiol, ond yn hytrach yn ddatganiad o fwriad - a bydd angen i Lywodraeth y DU fynd ati ar ôl Brexit i lunio cytundeb masnach gyda'r UE.
Byddai cytundeb presennol Mr Johnson ond yn sicrhau dim cwotâu na chyfyngiadau yn ystod y cyfnod o ymadael.
Fe allai hyn gael ei ymestyn y tu hwnt i 2020, ond mae Mr Johnson wedi dweud nad yw am i hynny ddigwydd.
Dywedodd Mr Davies: "Tra bod y ddogfen 31 tudalen yn sôn am gytundeb Masnach Rydd gyda dim tollau a chwotâu, dyw hyn ond yn ddatganiad o fwriad o ran yr hyn rydym yn ei ddymuno gyda'n marchnad agosaf a mwyaf gwerthfawr.
"Hyd tan fod y trafodaethau masnach wedi eu cwblhau, yna mae gennyf ofn nad oes unrhyw sicrwydd am y lefel o fynediad i farchnadoedd 27 gwlad y UE.
"Mae safbwynt NFU Cymru yn glir, mae'n rhaid osgoi sefyllfa lle byddwn yn masnachu gyda gwledydd y UE ar delerau Sefydliad Masnach y Byd (WTO).
"Ac os ydym yn gadael yr UE yna mae'n rhaid i hyn fod ar sail cytundeb sy'n amddiffyn amaethyddiaeth yng Nghymru."
Mae Boris Johnson am gael rhyddid i wyro oddi wrth reolau'r UE wrth drafod cytundebau masnach gyda gwledydd eraill y tu allan i'r UE.
Ond y mwyaf o wyro sy'n digwydd, bydd mynediad i farchnad sengl y UE yn fwy cymhleth - ac mae hynny'n wir i bob sector yn ogystal ag amaethyddiaeth.
Ddydd Llun, wrth siarad am y cytundeb, dywedodd Mr Johnson: "Mae'n golygu y gallwn adael gyda chytundeb sy'n llwyr amddiffyn amaethwyr ar gyfer marchnadoedd yr UE.
"Mae'n caniatáu i ni amddiffyn y trefniadau hynny a hefyd yn ein caniatáu i ddod o hyd i farchnadoedd newydd ar gyfer cynnyrch Cymreig."
Beth mae'r pleidiau'n ei ddweud?
Dywed y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru y byddai gadael yr UE yn niweidiol i economi'r DU a Chymru, gan gynnwys amaethyddiaeth.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud y dylid atal erthygl 50, tra bod Plaid Cymru am weld refferendwm arall gan ymgyrchu o blaid aros.
Dywed Llafur fod cytundeb Mr Johnson yn niweidiol i'r economi gan gynnwys amaeth.
Maen nhw o blaid llunio cytundeb newydd, ac yna cynnal pleidlais arall o ran aros neu adael yr UE.
Yn ôl Plaid Brexit, dyw'r cytundeb presennol ddim yn mynd yn ddigon pell. Maen nhw am adael yr UE - cytundeb neu beidio - erbyn Rhagfyr 2020.
Maen nhw'n dadlau y byddai hynny'n caniatáu llunio cytundebau mwy ffafriol gyda gwledydd y tu allan i'r UE - gan greu marchnadoedd newydd.