Farage: 'Pleidleisiwch yn dactegol i sicrhau Brexit'

  • Cyhoeddwyd
Nigel Farage yn lansiad polisi ymgyrch Gymreig Plaid Brexit ym Mwcle
Disgrifiad o’r llun,

Nigel Farage yn lansiad polisi ymgyrch Gymreig Plaid Brexit ym Mwcle

Mae arweinydd Plaid Brexit wedi annog pobl yng Nghymru sydd eisiau i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd i bleidleisio'n dactegol yn yr Etholiad Cyffredinol.

Yn ôl Nigel Farage, mae'r blaid yn fygythiad gwirioneddol i oruchafiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru.

Gwadodd hefyd, wrth lansio polisïau Cymreig y blaid ym Mwcle, Sir Y Fflint ddydd Llun, bod Plaid Brexit yn llai perthnasol yn sgil ethol Boris Johnson yn arweinydd y Blaid Geidwadol.

Ond pan ofynnwyd iddo amcangyfrif faint o seddi all ei blaid ennill yng Nghymru mewn gwirionedd, atebodd: "Rydym yn blaid newydd - peidiwch â gofyn hynny wrtha'i."

Dywedodd mai "rhoi her i'r Blaid Lafur" yw "prif sialens" Plaid Brexit yn yr ymgyrch etholiadol, ond eu bod hefyd yn annog etholwyr i bleidleisio'n dactegol i sicrhau Brexit.

"Rydym yn rhoi her i'r pleidiau Aros ac yn dweud wrth bobl, Llafur neu Geidwadol: os ydych hi'n meddwl mai'r ymgeisydd [ar gyfer] eich sedd chi all fynd i San Steffan a brwydro i adael [yr UE] yw'r [ymgeisydd] Plaid Brexit, yna yn dactegol dyna pwy mae'n rhaid i chi bleidleisio drosto."

Fel rhan o'u hymgyrch, mae Plaid Brexit yn gwneud addewid i orfodi ASau wynebu deisebau galw'n ôl os maen nhw'n symud i blaid arall, fel eu bod yn gorfod ceisio ail-ennill eu sedd mewn isetholiad.

Ond mae nifer o Aelodau Cynulliad a gafodd eu hethol fel cynrychiolwyr UKIP bellach yn ACau Plaid Brexit, a gofynnwyd i Mr Farage a oedd hynny'n felly'n golygu bod addewid y blaid yn un rhagrithiol.

Atebodd bod yr ACau Plaid Brexit wedi canfod eu hunain "yn ddigartref" wedi cwymp UKIP, a bod yr amgylchiadau'n "anarferol".

Nathan Gill
Disgrifiad o’r llun,

Nathan Gill wnaeth amlinellu polisïau Cymreig ymgyrch Plaid Brexit yn y lansiad ym Mwcle

Mae'r blaid yn dweud y byddai'n neilltuo £2.4bn y flwyddyn yn ychwanegol i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus a phrosiectau mawr yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf petai'n ennill yr etholiad.

Byddai'r £12bn ychwanegol i Gymru, medd y blaid, yn ganlyniad gwerth £200bn o arbedion ar draws y DU o ganlyniad gadael yr UE, dileu cynllun rheilffordd HS2 a thorri cymorth i wledydd tramor.

Dywedodd yr ASE a'r ymgeisydd yng Nghaerffili, Nathan Gill bod y blaid eisiau i'r £12bn gael ei wario ar brosiectau fel cynllun lliniaru'r M4.

Ychwanegodd bod y blaid yn dymuno i'r arian fynd at uwchraddio'r A55 a sichrau "gwasanaethau meddyg teulu 24 awr y dydd ar draws Cymru fel bod dim straeon anferth ar wasanaethau ambiwlans neu adrannau brys".

Beth bynnag yw dymuniad Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru yn unig sy'n penderfynu sut i wario unrhyw gyllideb ychwanegol a ddaw iddi.