'Dewis clir' i bleidleiswyr ynghylch gwariant
- Cyhoeddwyd
Bydd y cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn tyfu 3.5 gwaith yn gyflymach gyda llywodraeth Lafur yn San Steffan na'r Ceidwadwyr, yn ôl dadansoddiad annibynnol o'u maniffestos.
Mae arbenigwyr yn dweud bod 'na "ddewis clir" ger bron pleidleiswyr yn yr etholiad ar Ragfyr 12.
Ond maen nhw hefyd wedi codi cwestiynau ynghylch gallu'r ddwy blaid fwyaf i dalu am eu haddewidion.
Byddai'r trethu uwch mae Llafur yn bwriadu cyflwyno yn golygu bod gan Lywodraeth Cymru tua £3.2bn yn ychwanegol i wario na gyda'r Torïaid.
Pwy bynnag sy'n ennill yr etholiad, mae disgwyl i wariant cyhoeddus gynyddu.
Safbwynt y pleidiau
Ond pe bai Llafur yn cadw at eu cynlluniau, byddai gan Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd fwy i'w wario ar bethau fel addysg a'r gwasanaeth iechyd.
Mae cynlluniau gwariant y Democratiaid Rhyddfrydol rywle rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr, ac hefyd y swm mae Plaid Cymru yn dweud y byddai angen arnynt er mwyn cyflwyno eu polisïau nhw.
Dywed Plaid Brexit y dylai cyllid dyfu o leiaf mor gyflym â'r economi ac y bydd gadael yr UE yn arbed arian.
Mae'r ystod o gynlluniau llawer yn ehangach nag etholiadau diweddar.
Er bod ganddi rai pwerau codi treth, daw'r rhan fwyaf o arian Llywodraeth Cymru mewn grant gan San Steffan.
Mae dadansoddiad gan sefydliad annibynnol yr Institute for Fiscal Studies (IFS) yn cymharu sut y byddai maniffestos y tair plaid Brydeinig fwyaf yn newid y gyllideb ddatganoledig.
Yn ôl Christine Farquharson o'r IFS: "Mae'n anodd gor-ddweud mor fawr yw'r gwahaniaeth [rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr]."
Mewn dadansoddiad arall, mae Canolfan Llywodraethiant Cymru, ym Mhrifysgol Caerdydd, yn dweud y byddai cyllideb Cymru yn tyfu 28% dan Lafur o gymharu ag 8% dan y Ceidwadwyr - gwahaniaeth "anferth".
Ym mis Medi, fe wnaeth llywodraeth Prydain gynyddu'r gyllideb sydd gan Lywodraeth Cymru i wario o ddydd i ddydd ar wasanaethau fel addysg ac iechyd.
Yn ogystal â hynny byddai Llafur yn codi trethi ar bobl sy'n ennill dros £80,000 y flwyddyn ac ar gwmnïau.
Does dim ffigyrau pendant am nifer y bobl yng Nghymru fyddai'n cael eu heffeithio, ond mae 'na dros 15,000 sy'n ennill o leiaf £100,000.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Dyw'r Ceidwadwyr ddim yn bwriadu codi treth incwm ac maen nhw'n addo torri taliadau yswiriant cenedlaethol i weithwyr."
Ond mae'r IFS yn dweud nad yw'r naill blaid wedi cyhoeddi cynllun "credadwy".
Gwariant
Mae'r daflen hon gan y Ceidwadwyr yn honni eu bod nhw'n darparu £1.9bn ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd i Gymru.
Mae'r ffigwr yn cynnwys holl wariant ychwanegol sydd dros bedair blynedd - gan gynnwys arian sy'n talu am bethau fel cyflogau a chyfalaf, sy'n talu am waith adeiladu.
Ond nid yw'r arian o San Steffan yn mynd yn uniongyrchol i'r ysbytai.
Mae'n cyrraedd Llywodraeth Cymru, sydd yna'n penderfynu sut mae'n cael ei wario, am fod iechyd wedi ei ddatganoli.
Mae'r swm a roddir i Gymru yn dibynnu ar fformiwla sy'n ystyried y boblogaeth a faint sy'n cael ei wario yn Lloegr.
Petai bob ceiniog ychwanegol yn cael ei wario ar iechyd, yna byddai'n tanseilio honiad arall y daflen hon sef bod 'na ragor o arian ar gyfer addysg hefyd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr byddai £1.8bn yn ychwanegol yn dod i Gymru yn ystod y Senedd nesaf "gyda hyd yn oed mwy o arian ar gael trwy ein cynlluniau cyllido hir dymor ar gyfer y gwasanaeth iechyd ac ysgolion" heb yr angen i godi treth incwm.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gobeithio y bydd stopio Brexit yn helpu i dalu am eu haddewidion, gan ddweud y byddai'r economi'n tyfu'n gyflymach y tu mewn i'r Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds, fod amcangyfrif y blaid o £50bn yn ychwanegol i goffrau llywodraeth Prydain yn swm ceidwadol.
Roedd gan y Democratiaid Rhyddfrydol "faniffesto cymedrol" sydd ddim yn addo mwy nag sy'n fforddiadwy, meddai.
'Dewis clir'
Dechreuwyd y toriadau i gyllideb Llywodraeth Cymru gan glymblaid y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol 10 mlynedd yn ôl.
Bydd gwariant yn dychwelyd i lefelau 2010 yn y senedd nesaf, pwy bynnag sydd mewn grym.
Ond dywed Canolfan Llywodraethiant Cymru y gallai'r wasgfa barhau i rai gwasanaethau dan y Ceidwadwyr.
Er bod "ansicrwydd ac amheuaeth" ynglŷn â holl gynlluniau'r pleidiau, mae yna "ddewis clir yn wynebu pleidleiswyr,"meddai'r ganolfan.
Yn wahanol i'r Ceidwadwyr, Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol, dyw Plaid Cymru ddim wedi cyhoeddi dogfen gostio ar wahân.
Dim ond pe bai'n ennill grym yn y cynulliad y gellid cyflawni nifer o'u hymrwymiadau - gan gynnwys recriwtio mwy o feddygon a nyrsys.
Pe bai hynny'n digwydd, mae'r Blaid yn dweud y byddai angen £1.7bn yn ychwanegol arnynt erbyn 2023/24.
Cyllideb ddrafft
Mae'r blaid yn dweud hefyd y gallai arian ychwanegol gael ei godi trwy drethi, gan gynnwys cynnydd o 2c yng nghyfraniadau yswiriant cenedlaethol pobl sy'n ennill dros £50,000.
Dywedodd Plaid Brexit y byddai cynlluniau'r pleidiau eraill ar gyfer trethi uwch yn rhoi pwysau ar y sector breifat.
Dywedodd AC y blaid, Mark Reckless, y byddai lleihau cymorth tramor, gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb - a thrwy hynny, osgoi'r gost o dalu'r undeb - a dileu HS2 yn rhyddhau arian gellir ei wario yng Nghymru.
Nid yw cymariaethau'r IFS a'r Ganolfan Llywodraethiant yn cynnwys gwariant cyfalaf sy'n talu am brosiectau adeiladu y mae pob plaid yn bwriadu ei gynyddu trwy fenthyca.
Mae mathau eraill o wariant Llywodraeth Prydain yng Nghymru hefyd wedi'u heithrio, megis amddiffyn, taliadau lles a phensiwn y wladwriaeth.
Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cyllideb ddrafft bedwar diwrnod ar ôl yr etholiad cyffredinol.