Croeso cymysg i Nigel Farage yng Nglyn Ebwy
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Plaid Brexit, Nigel Farage wedi derbyn ymateb cymysg wrth iddo fynychu gêm rygbi yng Nglyn Ebwy brynhawn Sadwrn.
Roedd yn y dorf yn gwylio Glyn Ebwy yn chwarae rygbi wrth iddo ymgrychu ym Mlaenau Gwent llai na wythnos cyn yr etholiad cyffredinol.
Roedd rhai yn ei groesawu'n gynnes ac eraill yn ymateb drwy ddweud nad oedd croeso iddo.
Mae'n ymgyrchu yn yr ardal a welodd y bleidlais fwyaf yng Nghymru i adael yr UE yn ystod y refferendwm yn 2016.
Aeth ymlaen i Dredegar, lle dywedodd wrth BBC Cymru ei fod yn targedu Llafur.
Dywedodd: "Mae yna seddau lle ni yw'r her fwyaf i Lafur, felly yn hytrach na'n bod ni yn hollti'r bleidlais, fe allech chi ddadlau bod bodolaeth ymgeiswyr Ceidwadol yn y seddau yna yn hollti ein pleidlais ni," meddai.
Ychwanegodd: "Y cwestiwn yw sut mae cael y Brexit cywir? Ydych chi'n mynd i gael Brexit sy'n wahaniad llwyr?
"Os fydd ASau Brexit yn Nhŷ'r Cyffredin yn sefydlu grym yno, fe fyddwn ni'n dal Boris Johnson i gyfrif, oherwydd mae angen i rhywun wneud."
Roedd dau arweinydd arall yng Nghymru ddydd Sadwrn gydag arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn yn ymweld â sawl lleoliad, ac Adam Price o Blaid Cymru yng Nghaergybi.