Gohirio hwyl yr ŵyl oherwydd yr Etholiad Cyffredinol

  • Cyhoeddwyd
Amodau anodd ar yr A470 ger Pen y Fan ym Mannau Brycheiniol yn Rhagfyr 2017
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna amodau anodd ar nifer o ffyrdd Cymru yn Rhagfyr 2017 wedi eira trwm

Gorsaf bleidleisio mewn siop sglodion, symud gorsaf arall oherwydd llifogydd a cherbydau 4x4 wrth gefn rhag ofn bod yna dywydd garw mewn mannau gwledig.

Bu'n rhaid symud dathliadau Nadolig mewn rhai ardaloedd gyda'r angen i droi neuaddau pentref yn orsafoedd pleidleisio.

Mae cynnal yr etholiad cyffredinol cyntaf ym mis Rhagfyr ers 1923 wedi achosi sawl cur pen i'r trefnwyr, ac yn ôl nifer dyma'u hetholiad "mwyaf heriol" erioed.

Bydd pobl ar draws y DU yn bwrw pleidlais rhwng 07:00 a 22:00 ddydd Iau.

Ar ben y tywydd ac amseriad y bleidlais, roedd penderfyniad diwedd Hydref i gynnal yr etholiad yn caniatáu llawer iawn llai na'r chwe mis arferol i baratoi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl cawodydd o law mewn mannau o Gymru yn ystod dydd Iau

"Mae crynhoi popeth i ychydig wythnosau wedi bod yn her i ni," meddai Laura Lock o'r Gymdeithas Gweinyddwyr Etholiadol.

"Hefyd fe ddaeth i'r amlwg wrth i ni ddechrau arni fod yna ddramâu'r geni, ciniawau Nadolig ac ati eisoes wedi'u trefnu.

"I sicrhau mynediad i leoliadau felly, yn arbennig ar gyfer y cyfrif, bu'n rhaid i lawer o bobl symud."

Gyda'r disgwyl y bydd canran y rhai fydd yn pleidleisio yn uchel, mae angen paratoi at gyfer agweddau anarferol eraill.

Bydd angen gwresogyddion ychwanegol mewn gorsafoedd pleidleisio a chadw golwg ar amodau teithio wrth gludo blychau pleidleisiau i ganolfannau cyfrif wedi 22:00.

"Rydym yn wirioneddol gobeithio y bydd y tywydd o'n plaid fel eu bod yn gallu teithio'n ddiogel," meddai Ms Lock.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynghorau lleol wedi gorfod paratoi rhag ofn y bydd rhew neu eira ar y diwrnod pleidleisio

O gofio heriau'r gorffennol wrth geisio cadw ffyrdd gwledig ar agor mewn tywydd gaeafol, mae Cyngor Sir Mynwy wedi newid amseroedd a llwybrau'u gwasanaeth graeanu.

Bydd yna gerbydau 4x4 wrth gefn i helpu, ac mae swyddogion wedi ystyried gosod tracwyr GPS ar flychau pleidleisio rhag ofn bod yna argyfwng.

Bu'n rhaid symud dwy orsaf bleidleisio - un yn sgil llifogydd.

Y tywydd yw'r prif destun pryder yng Ngheredigion hefyd, lle mae'r cyngor wedi paratoi cynllun wrth gefn a threfnu mwy o wres a goleuadau mewn gorsafoedd.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae un o orsafoedd pleidleisio Sir Benfro mewn siop sglodion

Mewn un orsaf yn Sir Benfro fe fydd hi'n bosib i bobl brynu eu cinio neu swper wrth fwrw pleidlais.

Mae gorsaf bleidleisio arferol pentref Llanddewi Felffre, ger Arberth yn cael ei hatgyweirio, a phrin oedd yr opsiynau amgen ond roedd perchnogion siop sglodion yn fodlon camu i'r adwy.

"Roedden ni'n hapus i helpu, er bod e'n lleoliad anarferol," meddai Kelly Philpin o siop Hank Marvin.

Yn Sir Gaerfyrddin, mae'r etholiad wedi effeithio ar ddwy ddrama'r geni, ac mae sesiynau bowlio dan do wedi cael eu canslo mewn canolfan hamdden ym Mhen-y-bont ar Ogwr.