'Anelu am gytundeb masnach rydd erbyn diwedd 2020'

  • Cyhoeddwyd
Bydd Fay Jones, Virginia Crosbie a Sarah Atherton yn cynrychioli'r Ceidwadwyr yn San Steffan
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Fay Jones, Virginia Crosbie a Sarah Atherton yn cynrychioli'r Ceidwadwyr yn San Steffan

Gweithio tuag at gytundeb masnach rydd gyda'r UE erbyn diwedd 2020 yw'r nod, yn ôl un o ASau newydd Cymru.

Fe gipiodd Fay Jones sedd etholaeth Brycheiniog a Maesyfed oddi wrth Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol ac mae'n un o'r 14 o Geidwadwyr Cymreig sydd ar eu ffordd i San Steffan.

Dyma ganlyniad gorau y Ceidwadwyr yng Nghymru ers 1983.

Wrth i'r Prif Weinidog Boris Johnson sicrhau mwyafrif o 80 sedd, mae Ms Jones yn credu bod modd datrys Brexit.

Dywedodd: "Mae wedi bod yn frwydr galed yn ystod y misoedd diwethaf ac mae'r prif weinidog wedi datrys unrhyw anghydfod yn y Senedd."

'Sefydlogrwydd'

Mae Ms Jones yn credu bod modd bellach i'r cytundeb ymadael symud ymlaen i drafod telerau masnachu.

Wrth iddi gael cwestiwn yn gofyn a oedd hynny yn bosib erbyn diwedd 2020 dywedodd: "Dyw e ddim fel Canada [a gymerodd flynyddoedd lawer i ddod i gytundeb].

"Roedden nhw'n cychwyn o fframwaith reolaethol gwahanol.

"Ry'n ni yn aelod wladwriaeth, yn camu yn ôl wrth rai rheoliadau ac yn aros yn agos at eraill."

Dywedodd bod y ffermwyr yn ei chymuned wledig angen sefydlogrwydd - a bod modd rhoi hynny iddynt bellach a chaniatáu iddynt fasnachu yn rhydd heb dariff.

"Mae e i gyd i wneud â chael gwared â rhwygiadau, dod nôl at ein gilydd a symud ymlaen," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gadwodd Plaid Cymru eu pedair sedd gan gynnwys un Ben Lake yng Ngheredigion

'Peidio efelychu Corbyn'

Yn y cyfamser dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, bod yr etholiad cyffredinol yn "etholiad arlywyddol" gyda dim ond dau ymgeisydd sef Boris Johnson a Jeremy Corbyn.

Dywedodd y bydd etholiadau'r Senedd yn 2021 hefyd yn arlywyddol gan mai dim ond dau geffyl fydd yn y ras sef Mark Drakeford ac ef ei hun.

Dywedodd AC Llafur Blaenau Gwent, Alun Davies bod yn rhaid i Mr Drakeford "feddwl yn ddwys" os gall Llafur Cymru "ddianc o gysgod Jeremy Corbyn" rhwng nawr a hynny.

Fe wnaeth Mr Drakeford gefnogi ymgais Mr Corbyn i ddod yn arweinydd yn 2015.

"Mae Mark yn dilyn patrwm arweinyddiaeth Jeremy Corbyn ac mae Llafur Jeremy Corbyn wedi ei cael wrthod yn llwyr ar draws Cymru a'r DU," meddai Mr Davies. "Bydd rhaid i Mark feddwl am hynny.

"Oherwydd allwn ni ddim wynebu etholiad ymhen 18 mis a disgwyl cael ein hailethol os ydym am ddweud 'fe wnaethoch chi ein gwrthod ni a'n maniffesto yn Rhagfyr 2019 - beth am i chi gael cynnig arall arni ym Mai 2021."