Carwyn Jones: Polisi Brexit Llafur 'ddim digon clir'

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones

Nid oedd polisi'r Blaid Lafur ar Brexit yn ddigon clir yn ymgyrch yr etholiad cyffredinol, yn ôl cyn-Brif Weinidog Cymru.

Dywedodd Carwyn Jones bod Brexit wedi golygu bod pobl sydd ddim fel arfer yn cefnogi'r Ceidwadwyr wedi pleidleisio dros ymgeiswyr Torïaidd y tro hwn.

Fe wnaeth y Blaid Geidwadol gipio seddi mewn ardaloedd sydd wedi bod yn rhai Llafur yn draddodiadol yn yr etholiad.

Ychwanegodd Mr Jones bod trafod Jeremy Corbyn gydag etholwyr wedi bod yn "anodd".

Ar y Post Cyntaf, dywedodd Mr Jones: "O'dd Brexit yn rhywbeth o'dd bobl yn siarad amdano, ac o'dd hwnna'n rhywbeth o'dd wedi sicrhau bod pobl wedi dod mas i bleidleisio.

"O'dd rhai pobl yn dweud 'Ni ddim yn Dorïaid, ond ni moyn cael hwn drosodd, ac o'dd hwnna'n ffactor."

Ychwanegodd: "Dwi ddim yn credu bod ein polisi ni ar Brexit yn ddigon clir, os chi'n hala pum munud i esbonio i bobl ar stepen y drws, wel yna chi 'di colli sylw nhw."

Wedi'r canlyniad siomedig i Lafur, dywedodd Mr Corbyn na fyddai'n arwain y blaid mewn unrhyw ymgyrch etholiadol arall.

Yn ôl Mr Jones, roedd ei arweinyddiaeth yn ffactor gyda phleidleiswyr.

"Mae'n rhaid i ni gyfadde', o'dd Jeremy Corbyn yn rhywbeth o'dd yn cael ei siarad amdano ar y stepen drws, yn bersonol dwi wastad wedi dod 'mlaen yn dda 'da fe, ond tro hyn roedd e'n anodd.

"Y broblem yw os yw pobl yn edrych ar eich arweinydd a meddwl bod e ddim yn rhywun sy'n gallu gwneud y swydd, mae'n anodd iawn i gael eich polisïau yn groes i bobl os dy'n nhw ddim yn gefnogol i'r person sy'n arwain chi."

Arweinydd 'cyn y gwanwyn'

Dywedodd na fyddai'n helpu pe bai Mr Corbyn wedi ymddiswyddo ar unwaith.

Ychwanegodd bod angen cystadleuaeth cyn gynted â phosib, a chael arweinydd newydd "cyn y gwanwyn".

Mae "meddwl agored" ganddo ar bwy ddylai fod yn arwain nesaf, ond ei fod yn "hollbwysig" bod "ni'n cael ei hystyried gan bobl dosbarth gweithiol fel eu plaid nhw".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lisa Nandy a Jess Phillips wedi eu crybwyll fel arweinwyr posib gan Stephen Kinnock

Yn y cyfamser, dywedodd AS Aberafan, Stephen Kinnock na fyddai'n ymgeisio ar gyfer yr arweinyddiaeth.

Ar BBC Radio Wales, dywedodd Mr Kinnock bod "angen dysgu gwersi" o'r pedair blynedd diwethaf, ac awgrymodd y dylai'r arweinydd nesaf fod yn ddynes.

"Does gen i ddim cynlluniau i sefyll, dwi'n meddwl bod menywod gwych yn ein tîm sydd wedi eu hail-ethol, a dwi'n meddwl y dylai'r arweinydd nesaf fod yn fenyw.

"Dwi'n meddwl bod gan gydweithwyr fel Lisa Nandy a Jess Phillips straeon gwych i'w hadrodd."

Yn ôl Mr Kinnock mae'r pedair blynedd diwethaf dan arweiniad Mr Corbyn wedi bod yn "drychinebus", a gallai fod yn well i'r blaid petai'n gadael ar unwaith.

"Dwi'n meddwl bod angen i ni fod yn glir bod hyn ddim am un person, mae am holl ideoleg y chwith eithafol, sydd wedi ei wrthod yn llwyr gan bobl Prydain."