Cynllun trafnidiaeth yn awgrymu trydedd bont i'r Fenai
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib y bydd angen trydedd bont ar draws Afon Menai petai gorsaf niwclear newydd yn cael ei chodi ar Ynys Môn, yn ôl adroddiad.
Dywedodd adroddiad ymgynghorwyr Grontmij y byddai trafnidiaeth ceir a nwyddau i'r safle arfaethedig yn ychwanegu at dagfeydd ar y ddwy bont bresennol.
Gallai'r gwaith adeiladu ddechrau ar yr orsaf yn 2015, gan bara am chwe blynedd, meddai'r adroddiad.
Mae Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Bryan Owen, wedi dweud y byddai trydedd bont yn fanteisiol.
Ym mis Mehefin cadarnhaodd Llywodraeth y DU fod Wylfa B ymhlith rhestr o wyth safle yn cael eu hystyried yn addas ar gyfer adeiladu gorsafoedd niwclear erbyn 2025.
Brynhawn Llun roedd datblygwyr y safle, Horizon Nuclear Power, yn annerch cyfarfod arbennig o Gyngor Môn a thrafod sut y bydden nhw'n ymgynghori â phobl leol ynglŷn â datblygiad arfaethedig Wylfa B.
Yn y cyfamser, bydd adroddiad trafnidiaeth, dolen allanol Grontmij, a gomisiynwyd gan y cyngor, yn cael ei ystyried gan bwyllgor craffu amgylcheddol a thechnegol yr awdurdod ddydd Mawrth.
Mae'r cynllun yn amcangyfrif y gallai hyd at 6,000 o gontractwyr weithio ar y safle erbyn 2017.
'Problemau traffig'
Er gwaetha' cyfyngiadau mawr oherwydd problemau traffig ar bontydd Afon Menai, mae'r adroddiad wedi dweud y byddai angen cludo cyfran o'r nwyddau i'r safle ar y ffyrdd.
Ychwanegodd: "Os na all y datblygwr ddangos na fydd nifer y cerbydau sy'n cludo nwyddau a phobl i'r safle yn cyfrannu at broblemau traffig presennol y pontydd, gallai fod yn angenrheidiol codi trydedd bont ar draws Afon Menai."
Mae'r adroddiad hefyd wedi galw ar y datblygwyr Horizon Nuclear Power i ystyried beth fyddai effaith adeiladu'r orsaf ar y pontydd presennol.
Croesawodd Mr Owen y syniad o gael pont ychwanegol, gan ddweud: "Byddai trydedd bont yn fanteisiol i'r ynys.
"Ond 'dan ni ddim yn gwybod sut maen nhw'n mynd i gludo'r nwyddau. Mi allai fod ar drên neu dros y môr."
Wrth sôn am y tebygolrwydd o gael trydedd bont, ychwanegodd: "Ar hyn o bryd mae'n debyg nad yw'r cyllid yno ar gyfer hynny."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wrthi'n trafod "ystod eang o faterion, gan gynnwys materion yn ymwneud â thrafnidiaeth" â Horizon Nuclear Power.
Mae Horizon Nuclear Power wedi cael cais am sylw.